Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru
Rydw i’n deall pam fod Dafydd Elis-Thomas ac Ieuan Wyn Jones yn dadlau o blaid diddymu Swyddfa Cymru, neu ei uno â swyddfeydd yr Alban ac Iwerddon. Eu dyletswydd nhw yw ceisio torri’r llinyn bogail sy’n cysylltu Cymru a Lloegr – llinyn sydd bellach yn grebachlyd a gweddol ddibwrpas yn dilyn y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad.

Mae’n amlwg pam bod Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ac Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, eisiau cadw’r swyddfa, hefyd. Mae un yn gweithio yno a’r llall eisiau mynd yn ôl i weithio yno. A pe bai’r swyddfeydd yn cael eu huno mae’n debygol na fyddai’r un o’r ddau yn ddewis cyntaf i lenwi’r swydd newydd. Democrat Rhyddfrydol o’r Alban fyddai’n ei chael hi mae’n siŵr.

Ond o feddwl am beth fyddai orau i Gymru, yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, dw i ddim yn meddwl y byddai colli cynrychiolydd yn y Cabinet yn gam ymlaen. Mae gan y Cynulliad lond dwrn o bwerau ond y gwir plaen yw bod y rhan fwyaf o’r grym yn dal i breswylio yn San Steffan.  Swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yw dadlau achos Cymru. Prin y byddai’r Cabinet yn cofio bod ein gwlad fach ni’n bodoli o gwbl,  heb geg fach Gymreig wrth glust y Prif Weinidog. Does gan rhanbarthau Lloegr ddim ysgrifennydd yn y cabinet ac mai hynny’n fantais i ni ar adeg o argyfwng ariannol pan mae pob mantais yn bwysig. Mae’n annhebygol, dybiwn i, y byddai Llywodraeth San Steffan wedi cydsynio i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd pe na bai Cheryl Gillan wedi cael amser caled gan wleidyddion Cymru.

Efallai eu bod nhw eisiau eu diddymu nawr i ddangos pa mor bell ydyn ni wedi mynd, ond mae yna rywbeth yn dweud wrtha’ i y byddai Ieuan Wyn Jones a Dafydd Elis-Thomas yn cwyno pe na bai swydd Ysgrifennydd Cymru yn bodoli yn y lle cyntaf…