Peter Hain, cyn Ysgrifennydd Cymru
Mae ymosodiadau Peter Hain ar Blaid Cymru wedi rhoi hwb i’r Blaid Lafur yn y polau piniwn diweddaraf, meddai’r Aelod Seneddol.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf YouGov/ITV ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad, mae cefnogaeth Llafur wedi cynyddu 3% ers mis Ionawr eleni.
Mae cefnogaeth y blaid yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 48% – cynnydd o 16% ers etholiadau 2007.
Mae ffigyrau YouGov hefyd yn dangos gostyngiad o ddau bwynt yng nghefnogaeth Plaid Cymru, o 21%, i 19%, er mis Ionawr.
Dywedodd Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, fod y ffigyrau yn dangos fod ei ymosodiadau ar Blaid Cymru wedi gweithio.
“Pôl YouGov yr wythnos hon: Llaf+3 PC-2 A phwy oedd yn meddwl y byddai ymosod ar Blaid yn mynd yn ein herbyn ni. I’r gwrthwyneb, mae wedi eu niweidio nhw ac wedi ein helpu ni,” ysgrifennodd ar ei wal Twitter.
Daw ei sylw diweddaraf ar ôl ffrae rhyngddo ef a Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddechrau’r wythnos.
Roedd Carwyn Jones wedi amddiffyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, o honiadau gan Peter Hain ei fod yn rhan “aneffeithiol” o gabinet Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd Carwyn Jones nad oes “unrhyw weinidogion aneffeithiol yn fy llywodraeth i”.
Roedd y ddau wedi rhyddhau datganiad ar y cyd brynhawn ddydd Mawrth er mwyn tawelu’r dyfroedd.
Os yw’r ffigyrau diweddaraf yn adlewyrchu sut y bydd pobol yn pleidleisio ar 5 Mai, mae’n bosib y bydd y Blaid Lafur yn gallu llywodraethu heb fynd i glymblaid.