Yn ddiweddar bu Jeremy Evas o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio ym mhrifysgol Waikato yn Seland Newydd yn datblygu technoleg iaith i gynorthwyo’r gymuned Māori.
Dyna bwt o’i argraffiadau personol yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma…
Rwy’n cwrdd â sawl siaradwr Māori a staff adran Māori’r Brifysgol yn Waikato. Mae un o’r myfyrwyr yn bwrw ei farn ar Fesur Iaith newydd Cymru ac yn dymuno gweld rhywbeth tebyg yn ei wlad yntau, ond mae’n poeni am nifer y rhieni sy’n siarad Māori gyda’u plant.
Ar ôl bod yma bythefnos, rwy’n cytuno â’r pryderon. Mae rhai o’r pethau rwyf wedi’u gweld yn fy atgoffa o’r hyn a oedd yn digwydd yn ardal fy magwraeth, Cwm Rhondda, yn y 1930au.
Rhieni, sy’n llafar eu cefnogaeth i’r Māori, weithiau yn siarad Māori â’i gilydd, ac yn anfon eu plant i’r cylch meithrin Māori, cyn eu tynnu allan o’r system a’u rhoi yn y system ‘brif ffrwd’ (fel maen nhw’n ei galw). Neu yn siarad Saesneg â nhw am y byddant yn ’cael Māori yn yr ysgol’…
Mae system y llwyth yn arbennig o gryf i’r Maori ac yn drech na phob cwlwm cymdeithasol arall gyda’r bobol, fel rheol, yn cyflwyno eu hunain yn ôl pa lwyth maent yn perthyn iddo. Mae’r teulu estynedig hefyd yn gryf iawn a dyna oedd sail y kohanga – y nythoedd iaith: roedd y neiniau a’r teidiau a oedd heb siarad Māori gyda’u plant eu hunain yn ei siarad gyda’u hwyrion yn y nythoedd hynny.
Ond i raddau helaeth, mae’r genhedlaeth honno wedi marw, ac mae’r ffordd o fyw wedi newid. Mae patrymau gwaith newydd, modern y rhieni a gofal plant helaethach wedi golygu bod niferoedd y mynychwyr wedi gostwng yn sylweddol gan wanhau sefyllfa’r iaith (rwy’n sylweddoli’n gynnar yn ystod fy ymweliad mai ail iaith, bellach, yw’r iaith hon i raddau helaeth iawn). Mae galwadau i’r mudiad sy’n cydlynu’r nythoedd edrych arno ei hun er mwyn moderneiddio.
Darllenwch weddill y darn barn yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth