Siambr y Cynulliad
Bydd swyddogion yn Llundain yn parhau i graffu ar “bob un” o ddeddfau newydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl un o fargyfreithwyr amlycaf Cymru.
“Mi fydd yn bosibl i lywodraeth San Steffan herio deddfau’r Cynulliad,” meddai Winston Roddick, y Cwnsler Cyffredinol cyntaf i’r Cynulliad hyd at 2003.
“Bydd yn rhaid i’r Cynulliad fod yn ofalus iawn wrth lunio deddfau. Y risg yw bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod cyfraith yn mynd y tu hwnt i bwerau’r Cynulliad. Bydd y cwestiwn hwn yn cael ei godi am bob Mesur fydd yn dod allan o’r Cynulliad.”
Yn ôl Winston Roddick, bydd gweision suful o’r Cynulliad a San Steffan yn dal i gwrdd yn rheolaidd i drafod deddfau newydd, fel ei bod yn bosib trafod unrhyw broblemau all godi, cyn bod deddf Gymreig yn dod i rym.
“Os yw deddf Gymreig yn cael effaith y tu hwnt i ffiniau Cymru, yna mae’n mynd ymhellach nag awdurdod y Cynulliad,” meddai.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 10 Mawrth