Es i ddim i lawnsiad ymgyrch True Wales gogyfer a’r refferendwm pwerau yn Nhrecelyn ddoe am amryw o resymau. O ganlyniad, doeddwn i ddim yno i glywed cyhoeddiad Rachel Banner na fyddai True Wales yn gwneud cais am statws ymgyrch Na swyddogol. Felly mae’n debygol na fydd ymgyrch Ie swyddogol chwaith, gan fod rheolau’r Comisiwn Etholiadol yn mynnu bod dwy ymgyrch swyddogol -un o blaid ac un yn erbyn -neu ddim un o gwbwl. Mae yna un dyn unig yn gwneud ymgais tafod yn y boch i fod yn Ymgyrch Na. Dyw Alwyn ap Huw ddim yn credu bod y cynnig presennol yn mynd yn ddigon pell. Fel yr un dyn ag yr yw e, mae’n annhebygol o gyrraedd gofynion y Comisiwn Etholiadol o gael cefnogaeth o Gymru ben baladr. Ac yn ôl ei flog, mae’n edrych am nawdd gan ryw filwnydd hael i ariannu’r fenter!
Ta beth, dadl pobol fel Helen Mary Jones o Blaid Cymru a Wayne David o’r Blaid Lafur yw bod penderfyniad True Wales i beidio ag ymgeisio am y statws swyddogol yn stynt ac yn un gwrth-ddemocrataidd. Byddai unrhyw ymgyrchoedd swyddogol yn cael rhoi taflen yr un i’w dosbarthu’n ddi-gost i bob cartref yng Nghymru ac yn cael amser am ddim ar y tonfeddi radio a theledu. Dim ymgyrchoedd swyddogol = dim cefnogaeth gyfryngol ehangach.
Nawr, fe fydd y Comisiwn yn creu un daflen yn gosod y ddwy ochr i’w dosbarthu i gartrefi Cymru os na fydd ymgyrchoedd swyddogol i wneud y taflenni eu hunain ond dw i ddim mor siwr beth fedran nhw wneud o ran cyflwyno’r ddwy ochr ar y teledu a’r radio. Sef efallai ble mae sylwadau Helen Mary a Wayne David yn dal dwr.
Ro’n i mas yng Nghaerdydd rhyw noswaith neu ddwy wedi lansiad yr Ymgyrch Ie ac yn siarad â ffrind o feddyg oedd yn dweud y byddai e’n debygol o bleidleisio Na yn y refferendwm os o gwbl. Dyw e ddim yn rhy hoff o sut mae’r Llywodraeth wedi bod yn delio â iechyd na chwaith yn gweld bod unrhyw ddaioni wedi dod o gael Cynulliad. Roedd e’n gweld pleidlais Na fel pleidlais dros ddychwelyd pwer i San Steffan, sydd ddim yn gywir wrth gwrs.
Y noson cyn siarad â’r meddyg ro’n i mewn parti dyweddio yn siarad â ffrind o gyfreithiwr oedd heb glywed am y lansiad na chwaith beth oedd holl bwynt y refferendwm. Roedd e wedi rhyw hanner clywed bod refferendwm ond heb syniad pendant o beth oedd y rheswm dros gynnal y bleidlais.
Mae’r ddau yma’n fois galluog, sy’n ymddiddori yn y newyddion, yn gwrando ar y radio ac â diddordeb ym mhethau’r byd ond heb syniad llawn o beth sy’n digwydd yn y Cynulliad -achos Radio 4 yw eu dewis nhw o radio am newyddion, gorsafoedd tu hwnt i’r rhai penodol Gymreig am eu cerddoriaeth a’r papurau â phencadlysoedd yn Lloegr sy’n mynd â’u ffansi nid y papurau Cymreig. Pe bai ymgyrchoedd swyddogol, byddai darllediadau am ddim gan y ddwy garfan ar orsafoedd radio masnachol, rhwng rhaglenni teledu ar y bocs a byddai cyfle i’r ddwy ochor ddadlau eu hachos tu hwnt i fwletinau newyddion a rhaglenni trafod. Byddai pobol yn clywed am y refferendwm, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw riddyn o ddiddordeb.
Yr her i’r ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn dros y chwe wythnos nesaf yw trosglwyddo’r neges heb yr hwb cyfryngol ychwanegol. Y cwestiwn yw, ydyn nhw’n mynd i gyrraedd pobol fel y cyfreithiwr a’r meddyg? Llwyddo ai peidio, bydd y tebygrwydd o unrhyw ffigwr sylweddol yn dod allan i bleidleisio ar Fawrth 3 yn crebachu’n sylweddol heb ymgyrchoedd swyddogol.