Mae’r Dreigiau’n targedu gorffen eu hymgyrch Ewropeaidd siomedig ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth yn erbyn Glasgow ddydd Sul. 

Mae’r rhanbarth o Gymru yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Cwpan Heineken y tymor hwn wrth iddynt baratoi i chwarae eu gêm olaf o’r gystadleuaeth. 

Fe fydd Toby Faletau ar gael i’r Dreigiau ar ôl methu’r daith i Toulouse y penwythnos diwethaf oherwydd problemau gyda’i basbort. 

Mae Tom Riley yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei orffwyso yn erbyn y Ffrancwyr. 

Fe fydd yn gyfle olaf i nifer o chwaraewyr Cymreig y Dreigiau, gan gynnwys Aled Brew, Dan Lydiate, Jason Tovey, Luke Charteris, Will Harries a Toby Faletau i ddangos eu doniau cyn bod hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn enwi carfan Cymru ddydd Sul. 

Glasgow yn hyderus

Fe fydd y Dreigiau’n wynebu tîm llawn hyder ar ôl i Glasgow guro’r Wasps 20-10 y penwythnos diwethaf. 

“Doedden ni ddim wedi cael fy synnu gyda’u buddugoliaeth yn erbyn Wasps – mae Glasgow yn dîm medrus,” meddai Paul Turner. 

“Mae ganddyn nhw linell a sgrym dda.  Fe fydd yn gêm agos a does byth sicrwydd o fuddugoliaethau mewn gemau rygbi.”

Carfan y Dreigiau

Cefnwyr- Will Harries, Pat Leach, Adam Hughes, Aled Brew, Tom Cheeseman, Tom Riley Ashley Smith, Matthew Jones, Jason Tovey, James Leadbeater, Wayne Evans.

Blaenwyr- Phil Price, Gethin Robinson, Ben Castle, Pat Palmer, Steve Jones, Tom Willis, Rob Sidoli, Luke Charteris, Scott Morgan, Toby Faletau, Lewis Evans, Gavin Thomas, Dan Lydiate.