Blwyddyn Newydd Dda i chi! Ac os na fydd hi’n flwyddyn newydd dda i wleidyddiaeth yng Nghymru, mae’n bendant am fod yn flwyddyn newydd brysur. Mae Ifan wedi cymeryd y risg o ddarogan digwyddiadau’r flwyddyn yma felly fentra i ddim ag eithrio i ddweud ein bod ni i gyd yn gwybod bod hanner cyntaf 2011 yn mynd i fod yn un aruthrol brysur gyda dau refferendwm ac etholiad ar y gweill.
Ymhen deufis, fe fydd y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad a bore ’ma, lawnsiwyd yr Ymgyrch Ie o’r diwedd. Gwaetha’r modd, pe na bawn i’n gorfod cymeryd nodiadau yn rhinwedd fy swydd, mae’n ddigon posibl y bydden i wedi cwympo i gysgu ar fy eistedd. Cyd-ddigwyddiad anffodus mai gwesty’r Big Sleep oedd yr olygfa allan o’r ffenestr yn Atrium Prifysgol Morgannwg felly!
Peidiwch â cham-ddeall, rwy’n deall yn iawn pam y dewiswyd Roger Lewis fel cadeirydd yr Ymgyrch Ie: cyn y Nadolig ceson ni sgwrs awr a chwarter hedfanodd heibio -dyn galluog, carismataidd, llawn brwdfrydedd a Chymro i’r carn ar waethaf blynyddoedd hir yn Llundain. Ond waw, roedd hanner awr bore ma yn teimlo fel oes.
Roger Lewis oedd yn cyflwyno pawb. “Pawb” yw tri “person go iawn” oedd yno i egluro pam y bydden nhw’n pleidleisio Ie ar Fawrth 3 -Llywydd UMCA Rhiannon Wade, Prifathrawes Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Janet Hayward ac Adrian Curtis sy’n rhedeg banc bwyd Glyn Ebwy. Er bod Roger Lewis efallai’n fwy egnïol na’r lleill, doedd hynny ddim yn anodd. Darllennodd y pedwar o sgript a’r tri “go iawn” yn dweud “This is my statement” cyn lawnsio mewn i’w darllen. Diii-flas! Dim gwobrau eisteddfodol i’r rhain, hyd yn oed gyda’r beirniad mwyaf maddeugar.
Ac mae’n codi’r cwestiwn -os na allan nhw siarad o’r galon ar y pwnc, ydyn nhw wir mor frwdfrydig â hynny dros yr achos wedi’r cyfan? Efallai mai’r broblem yw’r testun. Sut mae modd cyffroi dros gwestiwn mor glymhercog er yn llawn brwdfrydedd dros ddatganoli? Neu efallai nad yw’r ymgyrchwyr eisiau gwneud neu ddweud unrhywbeth all beryglu’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd ac felly’n cadw at sgript. Naill ffordd neu’r llall, mae’n mynd i fod yn wyth wythnos hir-wyntog a di-fflach os yw pethau’n parhau fel hyn.
Dyw hi byth yn ddi-fflach siarad â Len Gibbs o True Wales, yr Ymgyrch Na. Mae’i wrthwynebiad i ddatganoli yn chwyrn, ac fe draddodith ar y pwnc yn ddi-ddiwedd os ganiatewch chi iddo. Wrth siarad â fi ddoe, atgoffodd fi bod True Wales wedi lawnsio fel Ymgyrch Na ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuodd Confensiwn Cymru Gyfan ar ei thaith o amgylch Cymru i glywed barn y cyhoedd ar bwerau’r Cynulliad. Bydd mwy o’i sylwadau e, a mwy o’r lansiad bore ma yn Golwg dydd Iau.