Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets a Chymru, Dafydd Jones, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae rygbi ar ôl methu a gwella o anaf difrifol i’w ysgwydd.

Digwyddodd yr anaf wrth iddo chwarae dros Gymru yn erbyn Seland Newydd ym mis Tachwedd 2009.

Cafodd llawdriniaeth y diwrnod ar ôl y gêm er mwyn ail adeiladu’r ysgwydd ond bu’n rhaid iddo gael ail lawdriniaeth chwe mis yn ddiweddarach am ei fod yn parhau i ddioddef.

Penderfynodd Dafydd Jones, sy’n 31 oed, ymddeol cyn y Nadolig ar ôl iddo gyfarfod â arbenigwr. Dyw e heb chwarae i’r Scarlets ers wynebu’r Dreigiau ar 23 Hydref 2009.

Fe fydd Jones yn aros gyda’r Scarlets am y chwe mis nesaf er mwyn cynorthwyo â hyfforddi tîm yr Academi.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i fi a’r teulu ac mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn ei wneud,” ebe Dafydd Jones.

“Rydw i wedi buddsoddi fy holl egni wrth chwarae rygbi i’r Scarlets a Chymru ac rwy’n falch iawn o’r hyn ydw i wedi llwyddo i’w wneud.

“Mae wedi cymryd sbel i fi ddod i delerau â’r ffaith nad ydw i’n mynd i chwarae rygbi eto, ond fe gafodd y penderfyniad mwy neu lai ei wneud drosta’i am nad yw’n bosib dychwelyd o’r anaf.

“Mae gen i brofiadau ac atgofion arbennig, ac rydw i wedi chwarae gyda, yn erbyn ac wedi gweithio gyda rhai o oreuon y byd rygbi.

“Rwy’n hapus iawn gyda’r cyfle ydw i wedi ei gael – o chwarae yng Nghwpan y Byd yn 2003 a bod yn rhan o’r garfan a enillodd y Gamp Lawn yn 2005, i chwarae yn erbyn Richie McCaw yn 2004.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi i dros y blynyddoedd ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyfan.

“Dw i ddim wedi penderfynu beth ydw i am ei wneud nesaf, ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets sydd wedi rhoi chwe mis i mi gael gweithio gyda’r rhanbarth.

“Fe fydd hynny’n gymorth i mi benderfynu os ydi fy nyfodol ym myd rygbi ai peidio.”


Gyrfa Dafydd Jones

Mae Dafydd Jones wedi chwarae i’r Scarlets trwy gydol ei yrfa ar ôl dod drwy’r academi. Mae wedi chwarae dros 200 o gemau i dîm cynta’ Scarlets ers 2003.

Mewn 201 o gemau dros Lanelli enillodd 155 a sgorio 24 cais. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros y Scarlets ym 1997 ar Ddydd Sant Ffolant, yn erbyn Leeds.

Enillodd 42 cap dros Gymru, yn flaenasgellwr agored yn bennaf. Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru ar 9 Tachwedd 2002 yn erbyn Fiji.

Sgoriodd ddau gais i Gymru, yn erbyn yr Eidal a Romania. Mae wedi chwarae mewn 47 gêm Ewropeaidd, 84 yn y Cynghrair Celtaidd ac fe wynebodd 15 gwlad yn ystod ei yrfa ryngwladol.