Dydw i ddim am wneud cwis i chi fel y mae fy ffrind Tom Bodden yn ei gynnig yn ôl ei arfer tymhorol ar ei flog Gog in the Bay. Ond mae ITV a YouGov wedi dod ag anrheg nadolig fach i ni cyn i’r mwyafrif ffarwelio â’r rhithfyd i stwffio twrcio go iawn gyda’u teuluoedd dros yr wyl. Ie, yr arolwg barn misol.
Bydd Llafur yn hapus dros ben gyda 44% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio drostyn nhw yn etholiad y Cynulliad am y pedwerydd mis yn olynol. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn llawer llai hapus, gyda UKIP o’u blaen nhw mewn tair o’r rhanbarthau etholiadol. Mae’n siwr bydd peiriant datganiadau’r Gwyrddion yn anfon neges o lawenydd mawr i’r holl amgylcheddwyr eu bod nhw’n gwneud yn dda yn rhanbarth Canol De Cymru. Yn y refferendwm, mae’r nifer sy’n bwriadu taro pleidlais yn y lle cyntaf yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y cawn ni bleidlais Ie fis Mawrth.
Mae Golwg 360 yn sôn am anrheg nadolig i’r Ceidwadwyr yma. Newyddion drwg i Blaid Cymru fydd efallai’n gobeithio am wyrth ychwanegol dros yr wyl!
Dyma bigion o’r arolwg isod i chi. Nadolig Llawen!
Pe bai etholiad Cynulliad yfory, a gan ystyried y bleidlais etholaeth, sut fyddech chi’n pleidleisio?
2007 Mai Meh Gorff Awst Medi Hyd Tach Rhag
Llafur 32% 32% 42% 40% 39% 44% 44% 44% 44%
Pl. Cymru 22% 22% 20% 22% 23% 19% 21% 21% 21%
Ceid 22% 21% 19% 20% 22% 22% 19% 21% 23%
Dem. Rhydd 15% 20% 12% 13% 10% 11% 9% 9% 6%
Eraill 8% 5% 6% 5% 6% 5% 8% 6% 6%
A gan ystyried y bleidlais blaid neu ranbathol i’r Cynulliad, dros pa restr plaid y byddech chi’n pleidleisio?
2007 Mai Meh Gorff Awst Medi Hyd Tach Rhag
Llafur 30% 30% 40% 37% 39% 41% 40% 41% 42%
Pl. Cymru 21% 21% 19% 20% 23% 19% 23% 20% 21%
Ceid 22% 21% 20% 20% 21% 20% 18% 20% 22%
Dem. Rh 12% 18% 12% 14% 9% 12% 9% 9% 5%
Eraill 16% 9% 9% 8% 8% 8% 11% 11% 10%
Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm
Pe bai refferendwm yfory i roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad, sut fyddech chi’n pleidleisio?
Ebrill Meh. Gorff. Awst Medi Hydref Tach Rhag
Ie 49% 55% 48% 48% 49% 52% 48% 46%
Na 33% 28% 34% 32% 30% 29% 30% 25%
Ddim yn gwybod/ 18% 17% 19% 21% 20% 20% 22% 29%
Ddim am bleidleisio
Un peth bach arall. Os ydych chi eisiau jôcs arbennig o wael ar gyfer y Nadolig, edrychwch yma.