Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw am eglurhad heddiw am faint o raean sydd gan Gymru yn weddill.
Ddoe rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod angen i Lywodraeth y Cynulliad gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan er mwyn rhyddhau mwy o raean.
Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod nhw’n amau honiad Llywodraeth y Cynulliad dechrau’r mis fod ganddyn nhw ddigon o raean i barhau drwy gydol y tywydd gaeafol diweddar.
Cafodd rhannau o ogledd Cymru, gan gynnwys Gwynedd, eu taro gan eira trwm eto dros nos. Dywedodd Cyngor Gwynedd heddiw mai dim ond digon o raean ar gyfer dau ddiwrnod o eira sydd ar ôl ganddyn nhw.
Does dim disgwyl i 12,000 tunnell arall o raean sydd ar ei ffordd o Sweden gyrraedd tan 30 Rhagfyr.
‘Angen cyd-weithio’
Dywedodd Nick Bourne bod angen dargyfeirio graean o rannau o Loegr oedd heb eu taro cynddrwg i gynghorau Cymru.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cael darlun clir o beth yn union sy’n digwydd o ran y cyflenwad graean,” meddai Nick Bourne.
“Oes yna drefn yn ei le fel bod cynghorau Cymru yn helpu ei gilydd? Os mai dim ond 65,000 tunnell o raean sydd ar ôl, sut ydan ni am gael mwy ohono i’r ardaloedd sy’n cael trafferthion?
“Mae gan rai cynghorau stociau llawer uwch nag eraill. Mae’n amlwg bod angen strategaeth glir ar Lafur a Phlaid Cymru er mwyn datrys hynny.
“Ac unwaith y daw’r graean newydd o Sweden mae angen gwybod sut y bydd yn cael ei rannu ar draws y wlad.
“Rydym ni hefyd eisiau gwybod pa drafodaethau mae’r gweinidog yn ei gael gyda Llywodraeth San Steffan, sydd wedi bod ar gael i drafod dosbarthu graean ers sawl mis.
“Dros y dyddiau diwethaf rydym ni wedi gweld tywydd eithafol ar draws Cymru ac rydw i’n gwerthfawrogi’r gwaith caled i gadw’r wlad yn symud.
“Ond wrth i broffwydi’r tywydd ddweud bod yr oerfel yn mynd i barhau mae angen gwybod beth mae Llafur a Phlaid Cymru yn ei wneud i gyd-lynu’r gwaith.”