Roedd yr ysbïwr MI6 o Ynys Môn, Gareth Williams, wedi ymweld â chyfres o wefannau ‘bondage’ yn y misoedd cyn iddo gael ei ganfod yn farw mewn bag yn ei fflat yn Llundain, yn ôl yr heddlu.

Roedd y dyn 30 oed wedi ymweld â gwefannau oedd yn dangos pobol wedi eu clymu, a oedd yn cynnwys canllawiau ynglŷn â sut i ail-greu’r profiad.

Daeth ditectifs hefyd o hyd i gasgliad £15,000 o ddillad merched heb eu gwisgo yn ei gwpwrdd dillad.

Datgelodd yr heddlu ei fod o wedi ymweld â sioe cabaret oedd yn cynnwys dynion mewn dillad merched pedwar diwrnod cyn ei farwolaeth, a bod ganddo docynnau ar gyfer sioeau eraill.

Daethpwyd o hyd i gorff noeth Gareth Williams, 30 oed, mewn siwtces yn ystafell ymolchi ei fflat yn Pimlico, Llundain, ym mis Awst.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n sicr nad oedd o wedi gallu cloi ei hun i mewn i’r bag. Fe fu farw yn oriau man y bore 16 Awst, medden nhw.

“Rydym ni’n gwbl feddwl agored ynglŷn â sut y bu farw,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Jackie Sebire.

“Rydym ni’n galw heddiw ar i unrhyw un ddod ymlaen os oes ganddynt ragor o wybodaeth.”

Mae’r heddlu hefyd wedi rhyddhau darlun llygaid-dystion o gwpwl a welwyd yn mynd i fflat Gareth Williams ym mis Mehefin neu Orffennaf eleni.