Mae gwraig o Gymru wedi ei chyhuddo o ddelio a meddu ar gyffuriau yn Malaysia.
Mae Shivaun Orton, 41, sy’n fam i ddau blentyn 14 a 16 oed, yn dod o ardal Harlech.
Yn ôl yr heddlu daethpwyd o hyd i werth £15,000 o gyffuriau yn y busnes y mae hi a’i gwr, dyn lleol 47 oed o’r enw Abdul Harris Fadilah, yn ei redeg mewn tref wyliau o’r enw Cherating.
Mae’r ddau wedi pledio’n ddi-euog i ddelio cyffuriau a meddu ar ganabis, amffetaminau a heroin.
Dan ddeddfau Malaysia fe all gwerthwyr cyffuriau wynebu’r gosb eitha’. Fe fyddan nhw’n ymddangos o flaen llys eto ar 26 Ionawr.
Llun: Cherating