Mae cyfarfod tyngedfennol gan Blaid Cymru heno. Pam? Am i Bethan Jenkins o’r blaid honno gynnig gwelliant (gweler gwaelod yr ail dudalen) i’r mesur iaith ddydd Gwener diwethaf. Trwy wneud hyn, mae hi’n plesio ymgyrchwyr iaith fel y cyfreithwyr Emyr Lewis a Gwion Lewis a Chymdeithas yr Iaith a gweddill yr 85 lofnododd lythyr at y Gweinidog Treftadaeth yn gofyn iddo roi statws swyddogol cliriach i’r iaith yn y mesur iaith. Fe gofiwch o’r blogiad yma i Ffred deimlo i’r byw bod pobol yn cam-ddehongli ei deyrngarwch i’r iaith trwy wrthod eu cais yn llwyr.
Yn ôl i gyfarfod Plaid Cymru. Mae’r grwp yn cyfarfod heno i benderfynu beth i wneud ynglyn â gwelliant Bethan. Dilyn Bethan neu ddilyn Ffred -beth wnawn nhw? Mae hi’n sicr o bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth yfory -Llywodraeth ei phlaid ei hun -ac fe fydd yn egluro’i rhesymeg dros wneud beth mae hi wedi ei wneud yn y ddadl. Heno fe fydd hi’n amser i aelodau eraill Plaid Cymru i drafod a fyddan nhw’n gwneud safiad gyda hi. Mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio aelodau Plaid Cymru bod eu penderfyniad yn hanesyddol -un ai maen nhw’n gwneud mesur cryf nawr neu’n cyflwyno “mess-hir” a gadael y deddfu ieithyddol am ugain mlynedd arall.
Fe fydd aelodau’r Llywodraeth yn unedig yn dweud wrth aelodau cyffredin y blaid i beidio â mentro gwrthryfela. Fe fydd Plaid Cymru’n cynnal cynhadledd i’r wasg yn wythnosol o hyn hyd at yr etholiad fis Mai, ac yn y gynhadledd gyntaf wythnos diwethaf roedd Elin Jones, y Gweinidog Amaeth -a swyddog cyfathrebu’r blaid yn yr ymgyrch etholiadol -yn gadarn tu ôl i Alun Ffred. Na, fyddai hi ddim o fudd i Blaid Cymru pe bai’r meincwyr cefn yn pleidleisio gyda gwelliannau’r gwrthbleidiau i roi statws clir i’r iaith meddai hi (Doedd Bethan ddim wedi datgelu ei bwriad ar y pryd). Dyw Plaid Cymru ddim wedi colli golwg ar ei phleidlais graidd. Mater o farn yw geiriad y statws yn y ddeddf. Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu ar y geiriad a does dim troi nôl. Gawn ni weld yfory os yw gweddill aelodau’r blaid yn cytuno.
DIWEDDARIAD: Datganiad gan Blaid Cymru newydd lanio yn fy mewn-flwch. Mae Helen Mary, y dirprwy arweinydd, yn sefyll yn gadarn ar ochr y Gweinidog Treftadaeth a’r Llywodraeth o’r ddadl. Er nad oes pleidlais ganddo, mae Llyr Huws Gruffydd sydd ar frig rhestr Plaid Cymru yn rhanbarth y gogledd ar gyfer yr etholiad nesaf hefyd yn datgan ei gefnogaeth i fesur y Llywodraeth yn yr un datganiad. Dim ACau sy’n barod i hoelio’u lliwiau i’r mast cyn heno? Neu ymgais i ddweud mai nid dim ond y tîm rheoli a phobl yn y Bae sy’n cytuno â’r Gweinidog?