Mae disgwyl i Brydeinwyr dderbyn mwy nag £500 miliwn mewn arian parod a thocynnau anrheg y Nadolig yma, awgrymodd arolwg heddiw.

Roedd 19% o bobol yn disgwyl derbyn arian parod, gan dderbyn tua £61 yr un, gan olygu y bydd £587 miliwn yn newid dwylo’r Nadolig yma, yn ôl y banc ar y we, First Direct.

Fe fydd dau draean o bobol yn derbyn arian parod, â 20% yn cael siec, 9% yn cael tocyn anrheg a 7% yn cael arian yn syth i mewn i’w cyfrifon banc.

Dywedodd pedwar o bob deg y hoffen nhw ddefnyddio’r arian er mwyn prynu gwyliau neu anrheg foethus megis modrwy i’w hunain.

Ond dywedodd 36% y bydden nhw’n ei ddefnyddio i dalu am nwyddau dydd i ddydd fel bwyd, 25% yn ei roi o mewn i gyfrif cynilo ac fe fydd 10% yn ei ddefnyddio i dalu eu dyledion.

Roedd 3% yn dweud y bydden nhw’n rhoi’r arian i elusen.

Er ei fod o’n anrheg diddychymyg mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf yn hapus i dderbyn arian parod, wrth i 35% fynd i orddrafft ym mis Rhagfyr, a 24% yn gorfod tynnu arian o gyfrif cynilo er mwyn talu am yr holl wariant dros y mis.

“Mae mis Rhagfyr yn gallu bod yn fis costus ac fe fydd nifer yn falch o gael gafael ar arian parod,” meddai Richard Brown, rheolwr cynilo First Direct.

“Serch hynny mae’n ymddangos y bydd nifer yn cynilo’r arian yn hytrach na’i wario i gyd ar unwaith.”