Mae’r Swyddfa Tramor wedi rhybuddio pobl sydd ar eu gwyliau yn yr Aifft i fod yn wyliadwrus – yn dilyn cyfres o ymosodiadau gan siarcod yno.
Mae sawl person eisoes wedi eu hanafu’n ddifrifol ac fe gafodd un ddynes ei lladd dros y penwythnos.
Fe fu farw’r ddynes oedrannus o’r Almaen ar ôl i siarc ymosod arni yn Sharm el-Sheikh ar lannau’r Môr Coch.
Yn ôl swyddogion, fe fu’r ddynes Almaeneg farw’n syth ar ôl i’r siarc frathu ei braich.
Ychydig ddyddiau yn gynharach, roedd tri o dwristiaid Rwsiaidd ac un o’r Wcráin wedi dioddef ymosodiadau tebyg.
Mae miloedd o dwristiaid o Brydain yn heidio i Sharm el-Sheikh bob blwyddyn wedi’u denu gan y tywydd braf a’r dŵr clir.
‘Cymryd gofal’
Er bod ymosodiadau gan siarcod yn “anghyffredin” mae’r Swyddfa Tramor yn rhybuddio pobol y dylen nhw “gymryd gofal”.
Mae safonau diogelwch gwahanol ganolfannau deifio yn yr Aifft yn “amrywio’n arw”, medden nhw.
“Y rheol sylfaenol yw peidio byth a deifio neu snorclo ar eich pen eich hunain.
“Efallai na fydd cwmnïau sy’n cynnig profiadau anarferol o rad hefyd yn darparu safonau diogelwch ac yswiriant digonol.”