Mae manylion taith nesaf Gruff Rhys wedi eu cyhoeddi gan ei label Turnstile Music heddiw.
Fe fydd gitarydd a phrif ganwr y Super Furry Animals yn chwarae cyfres o ddeuddeg o gigs mewn lleoliadau amrywiol yn Lloegr a’r Alban, gan ddechrau ar 14 Chwefror.
Yn y Memorial Hall, Sheffield fydd y gig gyntaf ar 14 Chwefror, sydd hefyd yn ddyddiad lansio ar gyfer trydydd albwm unigol Gruff Rhys.
‘Hotel Shampoo’ yw teitl yr albwm diweddaraf sy’n dilyn ‘Candylion’ ac ‘Yr Atal Genhedlaethol’. Mae Gruff hefyd wedi rhyddhau un albwm gyda’i brosiect arall Neon Neon yn 2008, sef ‘Stainless Style’.
Gweld trwy Y Niwl
Y peth nodweddiadol arall am y daith yw mai Y Niwl, sef y band ‘syrff’ o Ogledd Cymru, fydd yn cefnogi Gruff Rhys ar y daith.
Mae’r Niwl yn ‘siwpyr grŵp’ sy’ cynnwys Alun ‘Tan Lan’ Evans, Pete Richardson (gynt o Gorkys Zygotic Mynci a Topper), Sion Glyn (gynt o Topper) a Gruff ab Arwel (gynt o Eitha Tal Ffranco).
Mae Y Niwl newydd ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘Y Niwl’ ac fe fyddan nhw’n agor y noson ar bob un o ddyddiadau’r daith. Yn fwy na hynny, fe fydd hi’n bythefnos o waith caled i’r pedwarawd gan y byddan nhw hefyd yn chwarae fel band cefndir yn ystod set Gruff Rhys.
Mae sengl gyntaf albwm Gruff Rhys, ‘Shark Ridden Waters’, allan eisoes.
Dyma restr lawn dyddiadau’r daith:
Llun, 14 Chwefror – Memorial Hall, Sheffield
Mawrth, 15 Chwefror – Oran Mor, Glasgow
Iau, 17 Chwefror – St Phillips, Manceinion
Gwener, 18 Chwefror – The Kazimier, Lerpwl
Sadwrn, 19 Chwefror – St Paul’s Church, Caergrawnt
Sul, 20 Chwefror – Arts Centre, Norwich
Llun, 21 Chwefror – Glee Club, Nottingham
Mawrth, 22 Chwefror – Cadogan Hall, Llundain
Gwener, 25 Chwefror – Palace Theatre, Bridport
Sadwrn , 26Chwefror – St Georges Church, Brighton
Sul, 27 Chwefror – Glee Club, Birmingham
28 Chwefror – St Georges Hall, Byste