Ai ymgyrch Etholiadau y Cynulliad y flwyddyn nesaf fydd y byrraf yn hanes Cymru?

Mae Plaid Cymru eisoes wedi gwrthwynebu cynnal Etholiad y Cynulliad a’r Etholiad Cyffredinol yr un diwrnod yn 2015, gan ofni y bydd yr holl sylw i’r bleidlais Brydeinig yn boddi’r sylw i bleidlais Cymru.  Ond sut yn y byd maen nhw’n mynd i gystadlu gyda’r Briodas Frenhinol™? Os ydi fy sỳms i’n gywir, dim ond chwe diwrnod fydd gan y pleidiau i geisio adennill sylw’r cyhoedd ar ôl i’r halibalŵ ddod i ben. Mae’r un peth yn wir am y refferendwm ar newid i’r system blediais amgen yr un diwrnod – roedd hi’n mynd i fod yn dasg caled dal diddordeb y cyhoedd beth bynnag, ond fe fydd hi’n amhosib os ydi Wills a Kate yn llenwi tudalennau 1 – 94 bob dydd am y mis blaenorol.

Pa blaid fydd yn elwa o’r holl chwifio Jac yr Undeb felly? Y Ceidwadwyr, dybiwn i – am eu bod nhw mewn pŵer yn San Steffan ac felly am gael y rhan fwyaf o’r sylw. Efallai na fydd Plaid Cymru’r un mor hapus bod gwisg briodas Kate Middleton wedi taflu cysgod mawr dros eu hawr fawr bob pedair blynedd.