Ydych chi yn siomedig ar ôl perfformiad llipa Cymru yn ystod y gêm gyfartal 16 – 16 yn erbyn Fiji nos Wener? Na phoener, dyw hi ddim cynddrwg a hynny – dyma rywbeth i godi eich calonnau.

“Mae hyn i weld yn digwydd i Gymru yn amlach na neb arall,” meddai Jonathan Thomas heddiw. A dyw e ddim yn anghywir…

Rhif 10: Yr Eidal 30 – 22 Cymru (Chwefror 18, 2003)

Dechrau blwyddyn anodd i Gymru dan eu hyfforddwr Steve Hansen. Dyma ail fuddugoliaeth yr Eidal ers ymuno gyda’r Chwe Gwlad, ac fe aeth Cymru yn eu blaenau i golli pob gêm yn y gystadleuaeth ar ôl hwn. Sgoriodd yr Eidal dair cais ond roedd y fuddugoliaeth bennaf ymysg y blaenwyr a doedd gan Gymru ddim meddiant werth son amdano.

Rhif 9: Cymru 16 – 30 Yr Ariannin (Tachwedd 10, 2001)

Does yna ddim byd yn bod gyda cholli yn erbyn yr Ariannin, ond roedd chwarae Cymru yn llawn gwallau, yn anobeithiol yn dactegol ac yn araf. Enillodd sêr y byd rygbi’r gynghrair, Iestyn Harris ac Anthony Sullivan, eu capiau cyntaf dros Gymru ond doedden nhw ddim yn gallu cael unrhyw effaith ar y gêm wrth i Felipe Contepomi sgorio 25 pwynt.

Rhif 8: Yr Eidal 23 – 20 Cymru (10 Mawrth, 2007)

Chwe Gwlad analluog arall, dan hyfforddiant Gareth Jenkins y tro yma, a cholli eto yn erbyn yr Eidal yn Rhufain. Roedd colli yn anoddach i’w lyncu ar ôl i Gymru gael cynnig gêm gyfartal ar blât gyda chic gosb yn yr eiliadau olaf. Ond ciciodd Jame Hook at yr asgell gan gredu fod yna amser ar ôl i chwarae, cyn i’r dyfarnwr chwythu ei chwiban ar gyfer diwedd y gêm. Wps!

Yr unig gysur i Gymru oedd maeddu Lloegr yng Nghaerdydd yr wythnos wedyn.

Rhif 7: Cymru 24 – 26 Canada (Tachwedd 10, 1993)

Enillodd Scott Quinnell ei gap cyntaf dros Gymru a sgoriodd y maswr Neil Jenkins wyth cic gosb. Ond ciciodd maswr Canada, Gareth Rees, 16 pwynt gan gynnwys gôl munud olaf er mwyn ennill y gêm i Ganada ar Barc yr Arfau. Dyma unig fuddugoliaeth Canada dros Gymru hyd heddiw.

Rhif 6: Lloegr 62 – 5 Cymru (Awst 3, 2007)

Cyfle i’r ddau dîm arbrofi cyn Cwpan y Byd oedd hwn, ond drwy yrru ail dim gwan i Twickenham roedd yr hyfforddwr Gareth Jenkins fel pe bai’n gwahodd chwalfa. Sgoriodd Lloegr naw cais i un gan Dwayne Peel, a sicrhau buddugoliaeth o faint hanesyddol dros eu gelynion pennaf. Gêm arbrofol ai peidio, fel Cymro dylai Gareth Jenkins wybod bod angen trin pob un o gemau Cymru yn erbyn Lloegr fel ffeinal Cwpan y Byd. Bydd Cymru yn chwarae Lloegr cyn Cwpan Rygbi’r Byd eto’r flwyddyn nesaf… gobeithio na fydd Warren Gatland yr un mor ffôl.

Rhif 5: Cymru 13 – Gorllewin Samoa 16 (Hydref 6, 1991)

“Diolch byth nad oedden ni’n chwarae Samoa gyfan,” meddai ryw gefnogwr ffraeth ar ôl yn gêm yma. Cafodd y gêm boenus ei chwarae ar Barc yr Arfau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 1991.

Sgoriodd y ddwy ochor ddau gais yr un, ond Samoa gipiodd y fuddugoliaeth enwog ac ers hynny mae Cymru wedi ei chael hi’n anodd maeddu timau’r Môr Tawel. Collodd y tîm yn erbyn Samoa eto yn 1999, ond o leiaf aethon ni drwodd y tro yna!

Rydym ni’n chwarae Samoa a Fiji yng Ngwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf. Duw a’n helpo ni.

Rhif 4: Cymru 34 – 38 Fiji (Medi 29, 2007)

Os oeddech chi’n meddwl bod nos Wener yn wael, o leiaf wnaethon nhw ddim colli’r gêm, a chael eu cywilyddio ym mhencampwriaeth rygbi mwyaf y byd. Yn gêm olaf Gareth Jenkins wrth y llyw, collodd Cymru eu pennau’n llwyr, a chwarae’r union fath o gêm agored, gyflym oedd Fiji yn ei ffafrio. Sgoriodd Cymru pum cais a Fiji pedwar, ond cafodd Cymru eu cosbi am ddiffyg disgyblaeth ac roedd cais munud olaf gan Fiji yn ddigon i selio’r fuddugoliaeth.

Mae’n debyg mai hon oedd un o’r gemau rygbi orau erioed, ond doedd hynny ddim yn gysur o gwbl i gefnogwyr Cymru oedd wedi teithio i Nantes.

Rhif 3: Cymru 9 – 15 Romania (Rhagfyr 10, 1988)

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru golli gartref i dîm y tu allan i’r ‘wyth uchaf’ yn y byd. Sgoriodd canolwr Cymru, John Devereux, gais. Ond doedd Cymru, dan arweiniad eu capten y maswr Jonathan Davies, ddim yn gallu ymdopi gyda disgyblaeth a threfn eu gwrthwynebwyr. Ymunodd Jonathan Davies gyda thîm rygbi’r gynghrair Widnes pedair wythnos yn ddiweddarach.

Rhif 2: Awstralia 63 – 6 Cymru (21 Awst, 1991)

Gêm arall o gyfnod tywyll yn hanes Cymru. Dyma oedd y chwalfa fwyaf yn hanes Cymru ar y pryd. Roedd yna hollt yn nhîm Cymru ac mae’n debyg bod y chwaraewyr wedi dechrau cwffio ymysg ei gilydd yng nghlwb rygbi Ballymore ar ôl y gêm. Ymddiswyddodd hyfforddwr Cymru, Ron Waldron, ar sail problemau iechyd yn syth ar ôl y daith.

Yr unig gysur i Gymru oedd eu bod nhw wedi colli o fwy o bwyntiau, 71 – 8, yn erbyn tim New South Wales cyn chwarae Awstralia gyfan.

Rhif 1: De Affrica 96 – 13 Cymru (Mehefin 29, 1998)

Dyma’r grasfa fwyaf y mae Cymru wedi ei dioddef hyd heddiw. Sgoriodd De Affrica bedwar cais yn naw munud cyntaf yr ail hanner. Agorodd y tîm saith cais arall yn ugain munud olaf y gêm ac fe fyddwn nhw wedi pasio 100 pwynt pe na bai asgellwr De Affrica wedi gollwng y bel yn yr eiliadau olaf. Dywedodd hyfforddwr y Boks ar y pryd, Nick Mallett, mai Cymru oedd y “tîm rhyngwladol gwaethaf iddo ei weld erioed”. Yr unig bethau da yn y gêm i Gymru oedd cap cyntaf Stephen Jones a phenodi Graham Henry yn hyfforddwr yn dilyn y chwalfa.