Mae rhif wyth Cymru, Jonathan Thomas wedi dweud bod y sgwad gyfan yn teimlo “cywilydd” ar ôl y gêm gyfartal 16 – 16 yn erbyn Fiji nos Wener.
Mae Cymru wedi chwarae chwe gêm yn olynol heb ennill unwaith, y record waethaf ers 2003. Ac fe allai pethau waethygu eto wrth i Gymru herio Seland Newydd yr wythnos nesaf, ac yna Lloegr gartref yn gêm gyntaf y Chwe Gwlad cyn gorfod teithio i’r Alban.
Dyw Seland Newydd heb golli gêm ym Mhrydain ers 2002, a dyw Cymru ddim wedi eu maeddu nhw ers 57 mlynedd.
“Unwaith eto fe wnaethon ni fethu a rhoi’r cynllun ar waith,” meddai Jonathan Thomas.
“Dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Fe wnaethon ni gamgymeriadau na ddylai timau rhyngwladol fod yn eu gwneud.
“Mae’n rhaid rhoi clod i Fiji, ond roedden ni’n wael iawn. Dydw i ddim yn meddwl fod yna ddiffyg ymdrechion, dim ond gormod o gamgymeriadau – ildio’r meddiant a disgyblaeth.
“Dyw Fiji ddim yn dîm gwael fel mae pobol yn ei feddwl, mae gyda nhw lot o chwaraewyr yn Ewrop. Ond rydym ni yn siomedig iawn gyda’r canlyniad yna. Mae gennym ni gywilydd.
“Mae yna sawl un ohonom ni wedi bod yn ystafell newid Cymru ers blynyddoedd, ac wedi bod drwy ambell i amser caled fel hyn.
“Mae hyn i weld yn digwydd i ni yn reit aml yng Nghymru. Ond rydym ni wedi bod trwy waeth ac eisiau ennill rywfaint o’n balchder yn ôl yn erbyn Seland Newydd.
“Does dim amheuaeth ein bod ni’n mynd i roi gêm i Seland Newydd yr wythnos nesaf. Rydym ni’n gwybod ein bod ni’n gallu cystadlu gyda’r timau gorau yn y byd.
“Ond mae’n rhaid i ni wella’n aruthrol ar y gêm yma.”