Mae Llywodraeth Madagascar, mae ymgais gan garfan o filwyr i gipio grym wedi dod i ben heb golli gwaed.

Yn ôl un o benaethiaid y lluoedd arfog, mae 16 o filwyr gwrthryfelgar wedi ildio a bellach yn wynebu achos cyfreithiol yn eu herbyn.

Roedd cannoedd o filwyr wedi casglu o amgylch y ganolfan lle’r oedd y gwrthryfelwyr wedi eu cau eu hunain – er bod sŵn saethu wedi’i glywed, doedd neb wedi’i frifo, medai’r Llywodraeth.

Fe ddigwyddodd y cyrch ar yr un dydd ag yr oedd yr arweinydd presennol, Andry Rajoelina, wedi cynnal refferendwm i geisio cadarnhau ei afael ar rym.

Cipio grym y llynedd

Roedd ef ei hun wedi cipio’r awenau ddechrau’r llynedd ar ôl cyrch milwrol arall ac mae gwledydd mawr y Gorllewin a gwledydd cyfagos yn Affrica wedi gwrthod cydnabod ei lywodraeth.

Mae wedi addo cynnal etholiadau ond roedd y refferendwm yn gofyn am ostwng isafswm oedran Arlywydd Madagascar o 40 i 35. Mae Andry Rajoelina’n 36 oed.

Ynghynt eleni, roedd Madagascar yn dathlu 50 mlwyddiant ei hannibyniaeth oddi ar Ffrainc ond mae wedi diodde’n economaidd ers i Rajoelina ddod i rym.

Mae’r gwledydd mawr a’r cronfeydd rhyngwladol wedi atal cymorth economaidd i’r wlad lle mae tua 70% o’r bobol heb gyflog.

Cysylltiadau â Chymru

Mae gan Gymru gysylltiadau cry’ gyda Madagascar – cenhadon Cymraeg o Gymru oedd y cynta’ i lwyddo yno, gan arwain y gwaith o gyfieithu’r Beibl i iaith y wlad, Malagasy.

Fe fu cenhadon o Gymru’n mynd yno’n gyson hyd at ddiwedd y ganrif ddiwetha’ ac mae gan gapel Minny Street yng Nghaerdydd a Chanolfan Penrhys yn y Rhondda gyswllt o hyd gyda mudiadau ym Madagascar.

Yng Nghymru hefyd y mae gwreiddiau un o’r elusennau amlyca’ sy’n ceisio rhoi cymorth i bobol y wlad – Arian i Fadagascar.

Fe fydd rhaglen am genhadon cynnar Madagascar ar S4C heno am 8.15.

Llun: Dathlu annibyniaeth ym Madagascar ynghynt eleni