Mae’r rhan fwya’ o bobol gwledydd Prydain yn credu mai un o drigolion Sir Fôn a ddylai fod yn frenin nesa’, nid un o Sir Gaerfyrddin.
Mae dau bôl piniwn gwahanol yn awgrymu y byddai mwyafrif o blaid i’r Tywysog William ddod yn frenin cyn ei dad, y Tywysog Charles.
Roedd mwyafrif hefyd yn credu y byddai William a’i gariad, Kate – sydd am fyw yn Ynys Môn ar ôl priodi – yn gwneud gwell job ohoni na Charles a Camilla, sydd â chartref ym Myddfai, Sir Gâr.
Yn y Sunday Times, roedd 55% o blaid rhoi’r Goron yn syth i William ar ôl y Frenhines bresennol; 44-37 oedd y sgôr mewn arolwg yn y News of the World.
Llun: Charles Llwynwermwd