Does gan achubwyr “ddim syniad” pryd y gallan nhw geisio mynd i mewn i bwll glo yn Seland Newydd i chwilio am 29 o lowyr sydd ar goll yno.
Does dim wedi ei glywed gan y dynion ers iddyn nhw gael eu dal mewn ffrwydrad ganol yr wythnos ddiwetha’.
Yn ôl achubwyr, mae lefelau nwy methan yn y pwll yn ei gwneud hi’n rhy beryglus i achubwyr fentro i mewn – o ran y dynion sydd yno eisoes a’r achubwyr eu hunain.
Mae dau Albanwr ymhlith y rhai sydd ar goll ac fe alwodd tad un ohonyn nhw am ddefnyddio offer robotig i geisio chwilio am y dynion.
‘Rhaid gwneud rhywbeth’
Fe ddywedodd Malcolm Campbell wrth bapur Scotland on Sunday bod rhaid gweithredu rhyw fodd i achub ei fab.
Fe alwodd am ddefnyddio robot i fynd i lawr i’r pwll lle mae ei fab, Malcolm, 25 oed, a Peter Rodger 40 oed, ar goll.
Roedd ef a’i wraig, meddai, wedi bod yn gwylio drama achub mwynwyr o bwll aur yn Chile ynghynt eleni gan ddychmygu pa mor ofnadwy fyddai hi pe bai eu mab nhw mewn sefyllfa o’r fath.
Yn ôl Prif Weithredwr pwll Pike River ar Ynys y De yn Seland Newydd, does dim cysylltiad wedi bod gyda’r dynion.
Llun: Pwll Pike River (gwefan y cwmni)