Rydyn ni bellach yn gwybod beth yw cynlluniau gwariant y Llywodraeth dros y blynyddoedd nesaf, os nad yw’r etholiad fis Mai yn arwain at lywodraeth cwbwl wahanol wrth gwrs. Mae Llywodraeth Cymru’n Un wedi cyhoeddi’r manylion fan hyn. Y pennawd maen nhw am ei weld yn y papurau newydd bore yfory yw “Resolved, Resilient and Responsible.” Nid yn annisgwyl, wrth i Jane Hutt annerch y wasg, roedd rhaid beirniadu clymblaid San Steffan am “dorri gormod yn rhy gyflym” ond hefyd sicrhad bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i daclo’r setliad “anoddaf ers dechrau datganoli” mewn ffordd Gymreig – “a distinct Welsh approach.”

Beth sy’n cael y fwyell? Wel, mae’n ymddangos mae’r sector breifat fydd yn dioddef fwyaf, yn benodol y sector adeiladu wrth i’r gwariant ar brosiectau adeiladu -‘prosiectau cyfalaf’ i ddefnyddio’r jargon -leihau’n ddirfawr. Wrth edrych trwy’r ffigyrau yn gyflym nawr, mae’r gostyngiad yn y gwariant cyfalaf yn gyson uchel. Ym maes iechyd er enghraifft, un o’r adrannau sydd wedi cael un o’r ergydion gwannaf, er bod y gwariant ‘cash’ ar iechyd -yr hyn sydd fwy neu lai yn golygu cyflogau -yn aros yr un peth ag eleni (fydd dal yn ergyd gan na fydd unrhyw lwfans i adlewyrchu chwyddiant) mae’r gwariant cyfalaf -ar adeiladu -i ostwng 12.6%. Yn yr un modd gyda’r adran amgylchedd a thai, mae gostyngiad bach o 2.2% yn y gwariant cash a gostyngiad mwy o 12.5% mewn cyfalaf = llai o waith i adeiladwyr tai. Wrth edrych ar yr adran gyfiawnder cymdeithasol a llywodraeth leol, mae’r darlun eto yr un peth. Cash -1.7%, cyfalaf -20.3%. Ac yn y blaen.

Mae’r darlun awdurdodau lleol yn arbennig yn achosi cryn bryder i fi. Mewn bywyd arall ro’n i’n delio â cheisiadau am iawndal yn erbyn awdurdodau lleol am ddamweiniau yn deillio o gwympo mewn tyllau yn y ffyrdd. Os yw awdurdodau lleol yn gorfod goroesi gyda phumed yn llai o arian i’w wario ar waith adeiladu ar ôl gaeaf caled, fydd y ffyrdd sydd wedi datblygu tyllau yn yr oerfel ddim yn cael eu cywiro. Fe fydd ceisiadau am iawndal yn cynyddu, a’r cynghorau sir methu amddiffyn yr achosion hynny yn enwedig y rhai sydd yn gwasanaethu ardaloedd di-freintiedig sydd eisoes yn brin o arian i’w wario ar y ffyrdd.

Er yr ergyd i’r sector adeiladu yn y flwyddyn ariannol nesaf, mae newyddion da am eleni. Mae £47 miliwn ar gael yn sydyn i’w wario ar ‘brosiectau cyfalaf.’ Fe fydd manylion rheiny yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun. Dim ond sinig fyddai’n awgrymu efallai bod y Llywodraeth wedi bod yn dal arian nôl er mwyn cael ‘spending spree‘ dros y misoedd cyn yr etholiad…

I chi ddarllenwyr cyson y blog hwn, rwy’n siwr eich bod eisiau gwybod beth fydd yn digwydd yn yr adran dreftadaeth ac yn benodol i’r gwariant ar yr iaith Gymraeg. Dros dair blynedd, mae disgwyl i’r adran dderbyn toriadau o 13%, 4.4% o’r toriadau hynny eleni. Ond mae’r gair “cynnydd” yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun y Gymraeg. Dydw i ddim wedi cael copi Cymraeg o’r naratif eto, ond dyma beth mae’n ei ddweud yn y Saesneg:

“An increase in funding is being provided to the Bilingual Wales Fund in order to support the establishment of the Welsh Language Commissioner and the implementation of the Government’s Welsh Language Strategy.”

Mae mwy am y gyllideb gydag ymateb y pleidiau i’w gael yma.