Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datgelu ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddweud eu bod nhw wedi rhoi blaenoriaeth i amddiffyn iechyd, addysg a sgiliau.
Mae yna doriadau bychan i’r adrannau iechyd, addysg a sgiliau, ond toriadau mwy i’r adrannau trafnidiaeth ac amgylchedd.
Ond er bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cadw gwario ar iechyd tua’r yr un fath tan 2012-13, ar tua £6 biliwn, mae’n golygu toriad o tua 7% mewn arian go iawn.
Yr adrannau Economi a Thrafnidiaeth a Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai sy’n wynebu’r toriadau mwyaf, o tua 20% mewn arian go iawn.
Dyma’r gyllideb ddrafft olaf cyn yr etholiadau ym mis Mai a’r cyntaf ers cyhoeddi’r Adolygiad Gwario Cyhoeddus fis diwethaf.
Fe fydd cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cwympo’r flwyddyn nesa’ o £15 biliwn i £14.5 biliwn – gyda chwyddiant, mae’r Llywodraeth yn honni y bydd y cwymp tua £860 miliwn.
Bydd y Gyllideb Derfynol yn cael ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Chwefror.
‘Amddiffyn Cymru’
Wrth lansio’r gyllideb dywedodd y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, Jane Hutt, y byddai’n amddiffyn y bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas, yn cefnogi plant a phobol hŷn, ac yn hwb i economi fregus y wlad.
“Daw’r Gyllideb Ddrafft yn ystod yr adeg economaidd anoddaf ers dechrau datganoli,” meddai Jane Hutt.
“Rydym ni eisoes wedi pwysleisio ein gwrthwynebiad i faint a chyflymder y toriadau sydd wedi eu gorfodi gan Lywodraeth San Steffan ar adeg pan ydan ni’n ceisio dod allan o ddirwasgiad.
“Serch hynny, rydym ni’n benderfynol o wneud y gorau o’r sefyllfa ac amddiffyn pobol Cymry a pharhau i ddarparu’r gefnogaeth orau i’r rheini sydd ei angen fwyaf.
“Nod y Gyllideb Ddrafft yw adeiladau gwytnwch – gwytnwch yn yr economi, ac yn narpariaeth y gwasanaethau hanfodol y mae pobol yn ddibynnol arnyn nhw.”
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar arian, Chris Franks, bod y Llywodraeth wedi gwrando ar flaenoriaethau pobol Cymru ac wedi eu hamddiffyn.
“Wrth i’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol roi toriadau anwar o flaen Cymru roedd o bob tro’n mynd i fod yn anodd, ond rydw i’n hapus ein bod ni wedi gallu gwarchod y pethau sydd fwyaf pwysig i Gymru,” meddai.
“Nod amddiffyn ysgolion, sgiliau ac ysbytai yw diogelu iechyd ac addysg y genedl a gallu’r wlad i oroesi’r dirwasgiad.”
Ymateb y Ceidwadwyr
Wrth ymateb i gyhoeddiad y gyllideb ddrafft dywedodd gweinidog cyllideb yr wrthblaid, Nick Ramsay, bod y toriadau i’r gyllideb iechyd yn “hollol annerbyniol”.
Roedd y Ceidwadwyr eisoes wedi addo amddiffyn y gyllideb iechyd yn llwyr pe baen nhw mewn grym yn dilyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
“Mae’r gyllideb yn golygu toriadau o gannoedd o filoedd o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros gyfnod o dair blynedd,” meddai.
“Mae hynny’n hollol annerbyniol ac yn peryglu gwasanaethau rheng flaen.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisoes wedi wynebu toriadau o £435 miliwn eleni a nawr rydym ni’n gwybod fod yna lawer mwy i ddod.
“Mae honiadau’r gweinidog ei bod hi’n amddiffyn iechyd yn rhagrithiol ac yn mynd yn groes i feirniadaeth Plaid Cymru a’r Blaid Lafur o addewid y Ceidwadwyr i warchod y gyllideb iechyd.
“Fe fyddwn ni’n parhau i lobio Llywodraeth y Cynulliad i warchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhag toriadau Llafur a Phlaid.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi derbyn setliad teg gan San Steffan, gyda thoriadau o lai nag 2% bob blwyddyn, rhai llai nag oedden nhw eu hunain wedi paratoi amdanynt.”
Ymateb y Dems Rhydd
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu cyfle euraid i dorri nol ar wastraff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau gwarchod gwasanaethau iechys rheng flaen ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw’n bosib gwneud toriadau i fiwrocratiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.
“Does dim pwynt amddiffyn y gyllideb iechyd pan mae yna dystiolaeth bod £1 biliwn o’r arian yn cael ei gam-wario.
“Er gwaetha’r cwymp yn nifer y diwaith gyhoeddwyd heddiw mae’r adferiad dal yn fregus. Mae’n syndod felly bod yr adran Economi a Thrafnidiaethyn wynebu rhai o’r toriadau mwyaf.”
Y toriadau
• Bydd y gyllideb iechyd yn disgyn £38,222,000 i £6,251,535,000 y flwyddyn nesaf – toriad o 0.6%.
• Bydd y gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn syrthio £84,817,000 i £4,386,801,000 y flwyddyn nesaf – toriad o 1.9%.
• Bydd y gyllideb Economi a Thrafnidiaeth yn syrthio £70,688,000 i £944,444,000 y flwyddyn nesaf – £7.5%.
• Bydd y gyllideb Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn disgyn £16,968,000 i £2,064,473,000 y flwyddyn nesaf – 0.8%.
• Bydd y gyllideb Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn disgyn £55,790,000 i £668,953,000 y flwyddyn nesaf – 8.3%.
• Bydd y gyllideb Materion Gwledig yn syrthio £6,733,000 i £136,556,000 y flwyddyn nesaf – 4.9%.
• Bydd y gyllideb Treftadaeth yn disgyn £6,527,000 i £153,115,000 y flwyddyn nesaf – 4.3%.
• Bydd y gyllideb Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad yn disgyn £6,611,000 i £63,782,000 y flwyddyn nesaf – 10.3%.
• Bydd y gyllideb Gweinyddiaeth Ganolog yn disgyn £18,198,000 i £347,423,000 y flwyddyn nesaf – 5.2%
Mwy i ddilyn…