Mae’r wythnos genedlaethol yn erbyn bwlio’r wythnos hon yn gyfle i fynd i’r afael â bwlio homoffobig, meddai’r mudiad Stonewall Cymru.
Mae arolwg barn gan y mudiad yn dangos bod oedran “dod allan” pobol hoyw wedi gostwng ar gyfartaledd dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Roedd arolwg o 1,536 o bobol hoyw yn dangos bod pobol ifanc 18 oed yn ‘dod allan’ yn 15 oed ar gyfartaledd.
Ond roedd pobol dros eu 60 mlwydd oed a ymatebodd i’r ymchwil yn dweud eu bod nhw’n 37 oed ar gyfartaledd cyn dod allan.
Gyda mwy o bobol ifanc o oed ysgol yn datgan eu bod nhw’n hoyw, mae’n rhaid i ysgolion wneud yn siŵr nad ydi eu disgyblion yn dioddef o fwlio homoffobig, meddai Stonewall.
“Fe ddylai pawb fod yn rhydd i ddod allan pan maen nhw’n barod ac yn ddigon hyderus, ond mae’n amlwg bod pobl yn dewis gwneud hynny yn iau ac yn iau,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru.
“Mae canlyniadau’r arolwg yma yn anfon neges gadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru, ein bod ni’n wlad decach nag yr oeddem ni, a bod cymorth ar gael.”
Mae’r mudiad yn annog pobl i ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad yn galw am ddefnyddio mwy o adnoddau Stonewall Cymru – gan gynnwys DVD ‘Allan ag e’ ar gyfer athrawon, a’r DVD newydd sbon FIT, sy’n trafod problem homoffobig.