Mae gwyddonwyr wedi datblygu prawf sy’n gallu ‘darllen’ archif genetig person er mwyn datgelu o ble ddaeth ei gyndadau, cyhoeddwyd heddiw.
Yn ôl yr ymchwilwyr mae’n bosib cael bob math o wybodaeth drwy edrych ar edefyn DNA, gan gynnwys sut gymuned oedd cyndadau’r person yn byw ynddi ganrifoedd yn ôl.
Dywedodd yr ymchwilwyr o Brifysgol Caeredin ei bod hi bellach yn bosib gweld a oedd cyndadau person yn dod o gymuned fach neu o dref fawr.
Mae hefyd yn bosibl gweld a oedd cyndadau person yn tueddu i briodi o fewn y teulu ai peidio.
Fe allai hynny ddatgelu pa gymunedau oedd yn cynnwys llai o amrywiaeth genetig – ac felly yn agored i gyflyrau difrifol fel ffibrosis y bledren.
“Y peth mwyaf cyffrous am yr ymchwil yw ei fod o’n profi fod ein genynnau yn cofnodi hanes symudiadau’r boblogaeth,” meddai Dr. Jim Wilson, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin.
Dadansoddodd yr ymchwilwyr dros 1,000 o bobl o 51 grŵp ethnig gwahanol, gan gynnwys llwythau o’r Amazon yn Ne America.
Fe fydd yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn gwyddonol PLoS One.