Ras rhwyfo ar draws môr yr Iwerydd yw un o’r anturiaethau sy’n cael eu hadrodd yn y gyfrol newydd, Ar Fôr Tymhestlog.
Am hanner dydd ar Ragfyr yr 2il, 2007 fe ddechreuodd Elin Haf Davies, Cymraes o ardal y Parc, ger y Bala, gyda’i chyfaill Herdip ar ras rhwyfo o La Gomera i Antigua.
Cymrodd hi bron i dri mis i’r ‘Nautical Nurses’, fel y cafodd y ddwy ei galw, i gyflawni’r daith, ac Elin Haf oedd y ferch gyntaf o Gymru i wneud hynny.
Nyrs sydd bron â gorffen ei doethuriaeth ar gyflyrau metabolig plant ym Mhrifysgol Llundain yw Elin Haf.
A hithau’n gweld plant yn dioddef yn ddyddiol fel rhan o’i gwaith yn Ysbyty Great Ormond Street, roedd yn awyddus i fynd ati i godi arian at gronfa a fyddai’n eu helpu nhw.
Y gyfrol
Yn y gyfrol Ar Fôr Tymhestlog gan wasg Carreg Gwalch, rydym yn cael clywed am anturiaethau Elin Haf yn rhwyfo dros Fôr yr Iwerydd ac yn rhedeg chwe marathon mewn chwe diwrnod ar draws anialwch y Sahara.
Rydym hefyd yn clywed am ei thaith mewn cwch rhwyfo gyda’r ‘Ocean Angels’, y tîm cyntaf o ferched i rwyfo ar draws môr India.
Yn ogystal â hanes ei theithiau, mae’r ferch ifanc yn adrodd hanes ei bywyd personol hefyd – sydd ar brydiau’r un mor stormus.
‘Profiadau newydd’
“Rydw i’n mwynhau profiadau newydd o hyd,” meddai Elin Haf.
“Fi ydy’r unig un o’r teulu sydd wedi teithio ymhell. Mae’n rhaid ei fod o’n rhywbeth yn y ffordd ydw i wedi cael fy nghreu sy’n gwneud i mi fod eisiau mynd allan a thrafaelio o hyd.
“Mi fyddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth arall eto – mae’r môr Tawel ar ôl i’w wneud o hyd!”
Fe fydd Elin Haf yn lansio ei chyfrol, Ar Fôr Tymhestlog yng Nghlwb Cymru Llundain, nos Fercher, Rhagfyr 8fed.