Mae Warren Gatland wedi cyfaddef fod ganddo le i ddiolch i Fiji, cyn i Gymru wynebu’r wlad yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Gwener.
Os na fyddai Fiji wedi maeddu Cymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc mae’n anhebygol mai fi fyddai’n hyfforddwr ar Gymru heddiw, meddai.
Cafodd cyn-hyfforddwr Cymru, Gareth Jenkins, ei ddiswyddo yn dilyn buddugoliaeth 38-34 yr ynys yn y Môr Tawel yn Nantes, Ffrainc.
“Rydw i’n cofio gwylio hynny’n digwydd a meddwl ei fod hi’n gêm wych,” meddai Warren Gatland.
Serch hynny roedd o’n feirniadol o dactegau tîm Cymru ar y diwrnod.
“O beth ydw i’n ei ddeall, wnaeth y chwaraewyr ddim rhoi’r cynllun ar waith. Fe wnaethon nhw geisio curo Fiji drwy chwarae yr un gêm â nhw.
“Pe bai Cymru wedi ennill y diwrnod hwnnw a wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf, mae’n debygol na fyddwn i yma heddiw.”
Gwell na tîm 2008
Mae Warren Gatland hefyd wedi honni bod Cymru yn well tim nag oedden nhw pan wnaethon nhw ennill y Gamp Lawn yn 2008.
“Rydw i wir yn credu fod gennym ni dîm gwell nawr,” meddai.
“Y nod tymor hir ydi ychwanegu rhywfaint o ddyfnder at y tîm, a gwneud yn dda yng Nghwpan y Byd.”