Gwibiodd briffing y Llywodraeth heibio bore ma -i fi o leia. Dyw Elin Jones ddim wedi cael y pleser o gwmni’r wasg ers sbel ac er i ni ei holi hi ar bethau nad oedd hi wedi cael ei briffio arnyn nhw cyn iddi hi fentro i ffau’r llewod roedd hi’n ddigon jocos yn ateb cwestiynau ar newid enw Llywodraeth y Cynulliad i Lywodraeth Cymru a Cynulliad i Senedd ac yn y blaen gan bwysleisio mai ei barn hi oedd hynny nid y Llywodraeth. (Dim sôn am ymgyrch ie o hyd gyda llaw)
Hirrach o lawer oedd briffing y Ceidwadwyr. Yn wir, bytodd y Ceidwadwyr mewn i amser y Democratiaid Rhyddfrydol gymaint oeddem ni’n trio amgyffred polisi’r Ceidwadwyr o warchod cyllideb y gwasanaeth iechyd ar draul pob un adran arall sydd dan ofal Llywodraeth y Cynulliad. Dw i dal ddim wir yn deall. Doedd gen i ddim bwriad o ymuno yn y llabyddio geiriol o’r ddau Nick (Bourne a Ramsay) ar eu polisi newydd gan bod y lleill yn cael cymaint o hwyl arni ond erbyn diwedd roedd rhaid. Ar un adeg roedd hi’n edrych fel pe baen nhw’n dweud y dylai cyllideb iechyd y Cynulliad gael ei warchod hyd yn oed os oedd hynny’n golygu amharu ar gynlluniau fyddai’n atal iechyd pobol rhag dirywio (ac felly’n atal cost dianghenraid ar y gwasanaeth iechyd) er enghraifft sicrhau cartrefi o safon. Ond na na, fyddai hynny ddim yn digwydd wrth gwrs ddim meddai Bourne.
Felly heb fynd mewn i fanylder y pingpong cwestiwn ag ateb bore ma, mae’n ymddangos i fi beth fyddai’r Ceidwadwyr yn gwneud yw ad-drefnu strwythur adrannau’r Cynulliad fel bod beth bynnag sy’n ymwneud ag iechyd, boed uniongyrchol (ysgolion, nyrsys, meddyginiaeth) neu anuniongyrchol (e.e tai) i fod o fewn i’r gyllideb iechyd ac felly byddai’r gyllideb iechyd yn gallu aros yr un peth, gan gynyddu yn unol â chwyddiant (RPI nid chwyddiant iechyd gyda llaw).
Fe fydden nhw efallai’n anghytuno â’r asesiad yna, ond maen nhw’n gwrthod rhoi eglurhad o sut maen nhw’n cyfiawnhau gallu gwarchod y gyllideb ar draul pob cyllideb arall gan ddweud nad oes ganddyn nhw fyddin o weision sifil i grenshan trwy’r ffigyrau ar eu rhan mewn byr o dro. Eto’i gyd, os dyna’r ddadl sut allan nhw wneud datganiad mor bendant? Creu polisi i ddenu penawdau heb ystyried y manylion os bu un erioed.
Chwarter awr fach oedd briffing y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw am i’r Llywodraeth wario’u harian yn well. Quel surprise!