Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi ysgrifennu at David Cameron i gwyno am “ymddygiad amhroffesiynol” un o adrannau Llywodraeth San Steffan.
Roedd o wedi ei gythruddo ar ôl i honiadau ymddangos yn y wasg nad oedd Cymru wedi gwneud digon o ymdrech wrth wneud cais am gynllun peilot £10miliwn ar gyfer band eang cyflym.
Roedd dogfennau aeth i ddwylo’r wasg yn dangos bod swyddogion Whitehall yn feirniadol iawn o gais Cymru ar gyfer un o’r prosiectau a gyhoeddwyd gan y Canghellor George Osborne fis diwethaf.
Fe fydd y cynllun peilot yn cael ei sefydlu yn rhannau gwledig o Swydd Hereford, Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, Cumbria a Gogledd Swydd Efrog.
Roedd nodyn mewnol yn yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn dweud nad oedd Llywodraeth y Cynulliad “wedi gwneud lot o ymdrech wrth wneud cais am y peilot”.
Yn ôl y nodyn roedd cais Swydd Hereford yn cynnwys mwy o destun mewn un bocs nag oedd yng nghais cyfan Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones bod y wybodaeth wedi ei ollwng i’r wasg am resymau gwleidyddol, wrth i’r wrthblaid ofyn am esboniad yn y Senedd heddiw.
Dywedodd bod yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi ymddwyn mewn ffordd “hollol amhroffesiynol” drwy ryddhau’r wybodaeth.
‘Gwarthus’
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, y dylai’r Prif Weinidog “esbonio i Lywodraeth y Cynulliad pam nad oedd o wedi trio ei orau glas i sicrhau’r £10 miliwn ar gyfer y cynllun peilot”.
Ychwanegodd bod cais Cymru wedi “methu’r pwynt yn llwyr,” gan ychwanegu “nad oedd o wedi ei gymryd o ddifrif ac o ganlyniad rydym ni wedi colli £10 miliwn”.
Wfftiodd Carwyn Jones y feirniadaeth gan ddweud bod y ffordd yr aeth y nodyn i ddwylo’r wasg yn “warthus” ac ymddygiad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn “amaturaidd”.
“Rydw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron ynglŷn â hyn,” meddai. “Rydw i wedi gofyn am esboniad.
“Rydw i hefyd wedi gofyn am gopi o bob un cais er mwyn gweld a ydi beth maen nhw’n ei ddweud yn wir ai peidio.
“Ond dydw i erioed wedi gweld adran o’r llywodraeth yn ymddwyn mewn ffordd mor amhroffesiynol.”