Mae De Affrica wedi gwneud un newid i’r tîm faeddodd Iwerddon cyn wynebu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Mae hyfforddwr y Springboks, Peter de Villiers, wedi dewis Frans Steyn yn y canol, wrth i Zane Kirchner ddisgyn i’r fainc.
Fe ymunodd Steyn gyda charfan De Affrica ddydd Sul diwethaf ar ôl cael ei ryddhau gan ei glwb Ffrengig, Racing Metro.
“Fe gafodd y tîm ei ddewis ar y funud olaf yr wythnos diwethaf a gwneud yn dda yn erbyn Iwerddon, ond doedden ni ddim yn gallu anwybyddu profiad Frans Steyn,” meddai Peter de Villiers.
“Mae o wedi ychwanegu brwdfrydedd i’r garfan ac mae’n bleser ei gael o’n ôl gyda ni.”
Fe fydd Peter de Villiers yn cadarnhau enw un blaenwr arall fydd yn cael ei gynnwys ar y fainc yn hwyrach yn yr wythnos.
Fe fydd clo De Affrica, Victor Matfield yn torri record newydd am gapiau ar gyfer Springbok wrth iddo chwarae gêm rhif 103 dros ei wlad.
Dywedodd hyfforddwr De Affrica ei fod yn disgwyl gêm anodd yn erbyn Cymru, er bod tîm Warren Gatland wedi colli yn erbyn Awstralia.
“Fe fydd Cymru’n siomedig ar ôl colli i’r Wallabies ac rwy’n siŵr eu bod nhw’n credu mai ni yw’r gwanaf o’r Tair Gwlad,” meddai Peter de Villiers.
“Maen nhw wedi meddwl ein bod nhw’n mynd i ennill yn ein herbyn ni ar sawl achlysur yn ddiweddar cyn colli.”
Carfan De Affrica
Cefnwyr- Gio Aplon, Bjorn Basson, Frans Steyn, Jean de Villiers, Bryan Habana, Morne Steyn, Ruan Pienaar.
Blaenwyr- Pierre Spies, Juan Smith, Deon Stegmann; Victor Matfield, Bakkies Botha, Jannie du Plessis, Bismarck du Plessis, Tendai Mtawarira.
Eilyddion- Chiliboy Ralepelle, CJ van der Linde, Flip van der Merwe, Francois Hougaard, Zane Kirchner, Patrick Lambie.