Mae fy ffrind wedi bod yn mynd o gwmpas y lle’r wythnos hon yn dweud wrth bobol bod gan Rhiannon Michael bliwraliaeth. Pleurisy mae hi’n ei feddwl ond mae hi’n trio bod yn ddoniol. Achos yr aflwydd, rwy wedi bod yn gaeth i fy nhy a fy soffa ers wythnos. Digon i hala colled ar unrhyw un ond gyda’r holl weithgarwch gwleidyddol yng Nghymru yr wythnos hon, uffern ar y ddaear i newyddiadurwraig wleidyddol. Achos mae fy ngliniadur wedi bod yn y swyddfa tra mod i ar y soffa. A does nemor ddim gwleidyddiaeth Gymraeg na Chymreig ar y teledu. Ac felly mae dewis fy ffrind o jôc yn eithaf addas.

Er i amryw i un gynnig dod â bwyd a’r papur i fi, un copi o’r Western Mail ydw i wedi gweld yr wythnos hon a hynny am i fi godi copi ar y ffordd adre o’r meddyg (ond fe ges i ddigon o fwyd felly diolch yn fawr boblach). Mae’n siwr mai trio ‘ngorfodi i i orffwys oedd pobol ond mae peidio â gwybod beth sy’n digwydd yn fy ngwneud i’n fwy aflonydd! Fe dries i ddilyn y newyddion Cymreig trwy’r we ar fy ffôn ond nid iphone sydd gen i ac mae’r sgrîn yn fach a’r cysylltiad yn annibynadwy. Felly heb y we ac heb bapur newydd, roedd rhaid i fi ddibynnu ar y teledu am fy ngwleidyddiaeth. Waeth i fi heb. Heblaw am ampm y BBC ar ddydd Mawrth a dydd Mercher a phytiau byr newyddion does dim gwleidyddiaeth Gymraeg ar y teledu. Mae S4C yn dangos trafodion y Cynulliad dros nos ond go brin y bydden i, fel merch fach dost, yn aros ar ddihun drwy’r nos i wylio hynny. Ro’n i hefyd yn y gwely cyn Dragon’s Eye a Sharp End yr wythnos hon ond o leia maen nhw’n bodoli -a blog am y ddarpariaeth yn ystod y dydd yw hwn.

Mae’r arlwy ar y we yn wych i anoracs gwleidyddiaeth Gymraeg, mae gwefannau a blogs rif y gwlith sy’n cynnig dadansoddiadau o hynt a helynt y Cynulliad a San Steffan yn y cyd-destun Cymreig, gwefan newyddion y BBC (mae Democratiaeth Fyw yn dangos holl drafodion y Cynulliad yn fyw) ac wrth gwrs ein gwasanaeth gwych ni ar www.Golwg36o.com ac mae darpariaeth ar wefannau’r Cynulliad a’r Comisiwn ( mae www.senedd.tv hefyd yn dangos yr holl drafodion o’r Cynulliad). Rwy’n deall yn iawn yr awydd i gysylltu â’r cyhoedd ar y we, ac mae’n siwr mae’r we yw’r dyfodol ond beth amdanom ni drueiniaid sâl neu hen, neu gaeth i’n cartref sydd heb gyswllt gwe? Mae S4C2 yn eistedd yn segur yn dargyfeirio pobol i wifren gwylwyr S4C gydol y dydd. Pam nad yw’r sianel hon yn cael ei defnyddio i ddarlledu o’r Cynulliad o hyd? Dw i ddim yn dweud llai, fe fyddai’n debygol o fy anfon i gysgu yn fy salwch o ystyried fy mlog diweddar ond fe ddylem ni gael y cyfle i weld y trafodion yn rhwydd, oni ddylem?

Gyda llaw, rwy’n blogio o fy ngliniadur heddiw. Roedd rhaid ei nôl, yn rhinwedd y rali fawr heddiw. Os na allwn i fod yno i ohebu, ro’n i’n benderfynol o wybod sut aeth hi! Meddyg yn dweud y caf fi fod nôl yn y gwaith ddydd Llun. Ffaelu aros!