Mae cwmnïau awyrennau rhyngwladol wedi canslo teithiau i brifddinas Indonesia heddiw, wedi i losgfynydd
gannoedd o filltiroedd i’r gorllewin o Jakarta ffrwydro dros y pythefnos diwetha’.
Mae 138 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i ffrwydriad Mynydd Merapi, ac mae ysbyty bychan wrth droed y mynydd yn dal i drio helpu dioddefwyr – a rhai o’r rheiny wedi llosgi 95% o’u cyrff.
Mae’r mynydd yn parhau i ffrwtian heddiw, gan boeri llwch rai milltiroedd i fyny i’r awyr.
Ychydig ddyddiau’n unig cyn yr oedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, i fod i ymweld ag Indonesia, mae pob taith awyren i Jakarta wedi ei chanslo heddiw.