Fe fydd etholiadau ‘mid-term’ yr Unol Daleithiau yn cael eu cynnal yfory ac mae disgwyl i’r canlyniadau fod yn rhai gwael i’r Arlywydd Barack Obama a’i blaid y Democratiaid.

Yn ôl pôl piniwn gan Gallup heddiw mae 55% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio o blaid y Gweriniaethwyr, y nifer mwyaf ers 1974.

Er gwaethaf ambell lwyddiant gan Barack Obama, fel diwygio sustem gofal iechyd y wlad, dyw’r rhan fwyaf o bobol yno yn amlwg ddim teimlo ei fod o wedi gwireddu’i addewid cynnar.

Mae ei amhoblogrwydd wedi’i wreiddio yn yr argyfwng economaidd. Mae 9.2% o weithlu’r Unol Daleithiau yn ddi-waith, a does dim awgrym y bydd pethau’n gwella’n fuan.

Dan y fath amgylchiadau, mae hyd yn oed llwyddiannau Barack Obama, fel y diwygiad gofal iechyd, yn cael eu gweld yn rhy ddrud a’n cael eu beio am dynnu sylw’r weinyddiaeth oddi ar yr economi.

Yn ystod ras arlywyddol 1992 dywedodd Bill Clinton y byddai’n “canolbwyntio fel laser” ar broblemau ariannol y wlad. Mae’n amlwg nad ydi Barack Obama wedi gwneud hynny a nawr mae’n talu’r pris.

Yr un peryg

Ar yr olwg gyntaf mae clymblaid David Cameron wedi osgoi disgyn i’r un twll a Barack Obama – dydan ni heb glywed unrhyw beth heblaw am yr economi yn dod o’u cegau nhw ers yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Ond maen nhw yn rhannu un gwendid â Barack Obama, sef y tueddiad i feio’r llywodraeth flaenorol am y methiant economaidd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bod yn ddigon parod i atgoffa pawb mai llanast George Bush yw hon – wedi’r cwbl, fe oedd yn arlywydd ar ddechrau yr argyfwng yn 2008, cyn i Obama  gael ei ethol hyd yn oed.

Fel Barack Obama mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd pob cyfle i’n hatgoffa ni mai llanast y Blaid Lafur yw hwn.

Ond dw i’n amau a fydd y strategaeth yna’n gweithio yn y tymor hir. Fel George Bush mae’r llywodraeth Lafur blaenorol wedi mynd, ac mae ganddyn nhw arweinydd newydd sy’n cael llai o’r bai am y chwalfa.

Yn ôl pôl piniwn gan YouGov ar ran Prifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth heddiw dim ond 32% o bobol Cymru yn beio’r Blaid Lafur am y toriadau ariannol, tra bod 34% sy’n beio’r glymblaid yn San Steffan.

Bydd etholiadau i’r Cynulliad, Senedd yr Alban, a chynghorau Lloegr, y flwyddyn nesaf yn rhy gynnar i gael eu galw’n ‘mid-terms’.

Ond os ydi pethau’n mynd o chwith cyn hynny, does fiw iddyn nhw alw ar bobol i feio’r criw ddaeth cynt – nhw fydd yn cael eu cosbi.