Mae chwaraewr rheng ôl y Dreigiau, Toby Faletau wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer cyfres yr hydref.
Roedd yna alw i’w gynnwys yn y garfan ryngwladol ar ôl iddo serennu yn erbyn y Gweilch dros y penwythnos, ac fe fydd yn cymryd lle chwaraewr y Scarlets, Rob McCusker sy’n cael llawdriniaeth ar hernia.
Fe fydd Faletau yn rhoi hwb i opsiynau Warren Gatland yn y rheng ôl gan fod cyn gapten Cymru, Ryan Jones hefyd yn absennol ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf.
Er bod ei dad, Kuli Faletau, wedi chwarae dros Tonga, roedd yn chwarae yng Nghymru pan anwyd y mab sydd wedi bod yn sgwad Cymru dan 20.
Mwy o anafiadau
Mae canolwr y Scarlets, Jonathan Davies allan o gyfres yr hydref yn gyfan gwbl ar ôl anafu ei bigwrn.
Mae Davies yn ymuno â Lee Byrne, a Leigh Halfpenny sydd hefyd yn absenoldebau o garfan Cymru.
Mae’n debygol bydd Andrew Bishop a Tom Shanklin yn dechrau yn y canol i Gymru yn erbyn Awstralia gyda Hook yn cymryd lle Byrne yn safle’r cefnwr.
Mae Warren Gatland wedi ychwanegu tri chwaraewr arall i ymarfer gyda’r garfan, sef Andy Powell, Dafydd Hewitt a Scott Williams.
Ond does yr un ohonyn nhw yn rhan o’r garfan lawn ar hyn o bryd.