Mae’n hanner tymor yn y Cynulliad a dim lot o unrhywbeth yn digwydd. Ond mae bron â throi’n fiwtini yma. Na na, nid achos S4C. Achos y bwyd.

Ddoe, un llais bach unig ddwedodd wrtha i’n siomedig nad oedd brecwast yn y ffreutur. Buodd rhaid iddo fe weithio’n ddygn heb ei dost dyddiol arferol a dihuno’n gynnar bore ma i fwyta yn y ty. Mae côr o grintach heddiw, a’r gweithwyr cynnal a chadw’n dweud y byddan nhw’n dod â bara’u hunen mewn fory er mwyn gallu gwneud tost. Maen nhw’n addo dod â pheth lan i lawr y wasg os y’n ni moyn.*

Er bod Llywodraeth Cymru’n benderfynol o barhau i roi brecwast am ddim i bob plentyn ysgol beth bynnag y cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, tra bod yr ACau ar eu gwyliau mae’r Comisiwn yn gwarafun i weithwyr cyffredin sy’n barod i dalu i gael eu bwyd boreol yn y ffreutur yn enw arbed arian. Does dim ots os ydyn ni’n gallu canolbwyntio ar stumog wag neu beidio ymddengys!!

Llun: David Melding AC

*er gwybodaeth, dydw i ddim yn cael bwyd yn y ffreutur yn y bore. alla i ddim gadael y ty ar stumog wag. ond mae’n neis cael y cynnig.