Fydd Michael Stone, llofrudd Lin a Megan Russell, ddim yn cael apelio yn erbyn ei ddedfryd, penderfynwyd heddiw.
Cafodd Michael Stone ei ddedfrydu i dair dedfryd oes yn dilyn yr ymosodiad yn Chillenden, Caint, ym 1996.
Dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol nad oedden nhw wedi dod o hyd i “unrhyw beth oedd yn cyfiawnhau cyfeirio’r achos ar gyfer apêl newydd”.
Yn ogystal â lladd Lin Russell, 45, a’i merch Megan Russell, 6 oed, ceisodd ladd ei chwaer Josie, sydd bellach yn byw yng Ngwynedd.
Roedd Josie yn naw oed adeg yr ymosodiad ac er iddi ddioddef o anafiadau ofnadwy i’w phen goroesodd a roedd hi’n gallu galw rhywfaint o’r ymosodiad i gof wrth siarad gyda’r heddlu.
Cafodd Michael Stone yn euog eto yn 2001 ar ôl ail achos llys, ar ôl i’r ddedfryd wreiddiol gael ei dileu mewn llys apêl.
Er ei fod o’n dal i honni ei fod o’n ddi-euog, dywedodd y barnwr, yr Ustus Royce, bod ei droseddau yn rhai “gwirioneddol erchyll” ac nad oedd o’n debygol o gael ei ryddhau.
“Yn achos Mr Stone does dim dadlau newydd fyddai’n awgrymu y byddai ei ddedfryd yn cael ei dileu,” meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.