Chwalodd to siop ym Mhen y Bont yr Ogwr gan anafu dwy ddynes, heddiw.
Syrthiodd rhannau o do Home Bargains, ar Stryd y Farchnad y dref, i’r llawr tua 11.40am bore ma ar ôl i ddŵr gasglu arno.
Cafodd y stryd ei chau dros dro wrth i sawl ambiwlans a dwy injan fan fynd draw. Mae siop Pound Stretcher a’r Job Centre drws nesaf hefyd wedi cau am eu bod nhw’n rhannu’r un to.
Yn ôl y gwasanaeth achub roedd hyd at bedair troedfedd o ddŵr wedi bod yn casglu uwchben y to ers peth amser, cyn iddo ysigo a chwympo i lawr.
Aethpwyd ag un ddynes oedd wedi ei hanafu i ysbyty gyfagos. Dywedodd llygaid-dystion eu bod nhw wedi gweld un ddynes oedrannus yn disgyn ar ei gwyneb i’r llawr wrth geisio ffoi’r chwalfa.