Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud y dylai ei dîm fwynhau’r profiad wrth herio Wigan ym mhedwaredd rownd y Cwpan Carling heno.

Fe fydd yr Elyrch ynghyd â 4,500 o’u cefnogwyr yn teithio i’r Stadiwm DW i wynebu eu cyn reolwr Roberto Martinez.

Fe fydd Abertawe yn ceisio ennill eu lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes, ond mae Rodgers wedi awgrymu y bydd yn gwneud rhai newidiadau i’r tîm.

“Mae’n gêm bwysig iawn i ni. Ond mae’n rhaid i ni gadw’r cydbwysedd cywir gyda chymaint o gemau yn y dyfodol agos,” meddai Rodgers.

“Roedd ein buddugoliaeth yn y rownd ddiwethaf yn erbyn Peterborough yn un da, ond fe gafodd sawl chwaraewr eu hanafu.

“Roedd hynny wedi ein gadael ni braidd yn brin wrth wynebu Nottingham Forest (a cholli 3 – 1), sef perfformiad gwaetha’r tîm y tymor yma.

“Fe fyddai’n dewis tîm sydd, yn fy nhyb i, yn ddigon da i ennill y gêm.

“Rydw i eisiau i’r bois fwynhau’r profiad a chreu hanes trwy gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf.”

‘Dim byd i’w golli’

Mae capten Abertawe, Garry Monk wedi dweud nad oes gan yr Elyrch ddim byd i golli yn erbyn Wigan.

Mae Monk yn edrych ‘mlaen i’r her o wynebu’r tîm o’r Uwch Gynghrair.

“Fe fyddwn ni’n wynebu tîm o’r Uwch Gynghrair gyda chwaraewyr o safon Uwch Gynghrair ac r’yn chi am brofi eich hunain,” meddai Monk.

“Fe fyddai wedi bod yn well i gael chwarae yn eu herbyn nhw adref, ond does dim byd i’w golli ac fe fydd y pwysau i gyd arnyn nhw.

“Fe fyddwn ni’n mynd er mwyn mwynhau ein hunain a sicrhau’r canlyniad cywir.”

Newyddion y tîm

Does dim disgwyl i’r amddiffynnwr, Ashley Williams, chwarae heno ar ôl iddo gael ei anafu yn erbyn Caerlŷr ar y penwythnos.

Fe ddioddefodd Joe Allen anaf i’w ben-glin dydd Sadwrn diwethaf, ond mae disgwyl iddo fod yn ffit i chwarae heno.

Mae’r chwaraewr ar fenthyg, Marvin Emnes hefyd ar gael i chwarae yn erbyn Wigan.