Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi galw ar gefnogwyr yr Elyrch sy’n teithio i Wigan heno i ddangos parch tuag at gyn reolwr y clwb, Roberto Martinez.
Fe fydd tîm Brendan Rodgers yn herio Wigan yn Stadiwm DW, ac fe fydd 4,500 o gefnogwyr Abertawe yn bresennol.
Mae Huw Jenkins yn credu na ddylai’r cefnogwyr anghofio am gyfraniad Martinez yn Stadiwm Liberty cyn iddo adael am yr Uwch Gynghrair 16 mis ‘nôl.
“Yn bersonol, rwy’n credu bod Roberto yn haeddu parch, yn debyg i’r hyn gafodd Brendan gan gefnogwyr Reading,” meddai cadeirydd Abertawe.
“Mae’r clwb yma wedi dod yn bell yn y deg mlynedd diwethaf, ac mae’n rhaid i ni ddeall y bydd rheolwyr a chwaraewyr yn parhau i symud ‘mlaen am amryw o resymau.
“Mae’n rhan o bêl droed modern ac fe ddylen ni dderbyn hynny a bod yn ddiolchgar am eu cyfraniad.
“Rwy’n gwybod bod sawl un wedi bod yn siomedig pan ymadawodd Roberto, ond mae fy mherthynas i gydag ef yn dal i fod yn dda ac r’y ni’n siarad yn gyson.
“Fe ddylai pawb yn Abertawe fod yn dymuno’n dda i Roberto am y dyfodol. Mae’n rhaid cofio’r hyn a gyflawnodd gyda’r clwb yma, fel rheolwr a chwaraewr.”