Mae dros 100 o bobl ar goll ac o leiaf pedwar wedi eu lladd ar ôl i tsunami daro ynysoedd gorllewin Indonesia.

Roedd nifer wedi dianc i dir uchel yn syth yn dilyn daeargryn a darodd ynysoedd Mentawai am 9.42pm neithwr.

Ychydig wedi’r daeargryn olaf am 2.37am fe darwyd yr ynysoedd gan don deg troedfedd o uchder.

Fe ddigwyddodd y daeargryn ar hyd yr un ffawt ar arfordir gorllewinol ynys Sumatra a oedd yn gyfrifol am achosi tsunami 2004, a laddodd 230,000 o bobl.

Yn ôl llefarydd ar ran canolfan argyfwng y Weinidogaeth Iechyd, mae cannoedd o dai wedi eu golchi i ffwrdd ym mhentrefi arfordirol Pagai a Silabu, ar ynysoedd y Mentawai.

Fe gymrodd hi ddeuddeg awr i’r gwasanaethau achub gyrraedd ynysoedd Mentawai, felly dim ond dechrau cyrraedd mae’r manylion ynglŷn â faint o bobl sydd wedi eu hanafu.

Dywedodd swyddog asiantaeth rheoli dinistr fod lefel y dŵr wedi cyrraedd toeau’r adeiladau.

Mae’r gwasanaethau yn dal i chwilio am 103 o bobl. Dyw hi ddim yn glir eto a lwyddodd y 103 o bobol sydd ar goll i ddianc i ddiogelwch y bryniau.