Fe fydd Cyngor Celfyddydau Lloegr yn torri cyllideb Opera Cenedlaethol Cymru 15% dros y pedair blynedd nesaf.
Fe fydd y cwmni yn derbyn gostyngiad 6.9% i’w chyllideb y flwyddyn nesaf – o £6.2 miliwn i £6.7 miliwn.
Mae’r cwmni yn perfformio yn Lloegr hefyd ac felly yn cael arian gan gynghorau celfyddydol Cymru a Lloegr.
Daw hyn wedi i gyllideb Cyngor Celfyddydau Lloegr ddisgyn o £449 miliwn eleni i £349 miliwn yn 2015.
Dyw hi ddim yn amlwg eto a fydd Llywodraeth y Cynulliad yn torri cyllideb Cyngor Celfyddydol Cymru, ac os ydyn nhw a fydd rhaid i’r cyngor dorri cyllideb Opera Cenedlaethol Cymru hefyd.
Mae disgwyl cyhoeddiad ynglŷn â hynny tua mis Rhagfyr, ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad ryddhau ei chyllideb ddrafft fis nesaf.
Y flwyddyn ddiwethaf derbyniodd Opera Cenedlaethol Cymru Becyn ariannol gwerth £1.2m tros ddwy flynedd gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr.
Dywedodd y cwmni ar y pryd y byddai’r arian yn eu helpu gyda cholledion ariannol ddaeth i law yn sgil y dirwasgiad ac yn gymorth wrth geisio sicrhau eu dyfodol tymor hir.