Mae Matthew Rees wedi cael ei benodi’n gapten newydd Cymru ar gyfer cyfres yr hydref gan arwain ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn Awstralia ar 6 Tachwedd.

Doedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland heb enwi ei gapten pan gyhoeddodd carfan 33 dyn Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Ond bachwr y Scarlets, sydd wedi ennill 39 cap i Gymru, fydd yn cymryd y cyfrifoldeb oddi ar chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Ryan Jones.

Fe fydd Ryan Jones yn colli’r gêm yn erbyn Awstralia ar ôl dioddef anaf i’w goes wrth chwarae i’r Gweilch yn erbyn Glasgow dros y penwythnos.

Fe fydd Jones yn cael ei ail asesu yn dilyn y gêm yn erbyn Awstralia i benderfynu pryd fydd ar gael i chwarae eto.

“Mae’n amlwg mae’n anrhydedd enfawr i fod yn gapten ar eich gwlad,” meddai Matthew Rees.

“Mae’n anhygoel meddwl y byddai’n arwain y tîm allan yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Awstralia.

“R’yn ni’n awyddus i berfformio yn erbyn y Wallabies a sicrhau’r canlyniad cywir i ddechrau ymgyrch yr hydref.”

Anaf arall

Mae asgellwr y Gleision, Leigh Halfpenny wedi tynnu ‘nôl o garfan Cymru ar ôl anafu ei bigwrn.

Fe fydd Halfpenny allan am tua thair i bedair wythnos, ac fe fydd Aled Brew yn cymryd ei le.

Roedd Brew eisoes yn ymarfer gyda’r garfan ryngwladol oherwydd absenoldeb asgellwr y Scarlets, George North, sy’n gwella ar ôl torri ei goes. Ond mae disgwyl i North ddychwelyd i ymarfer wythnos nesaf.