Mae cymdeithas adeiladu y Principality wedi gwadu adroddiadau ei bod wedi ei chlustnodi ar gyfer cynllun i greu cwmni newydd drwy uno nifer o gymdeithasau adeiladu.
Cafodd y gymdeithas adeiladu tai, sydd â 51 o ganghennau ar draws Cymru, ei henwi gan yr Observer fel un o bedair cymdeithas y mae cwmni JC Flowers eisiau eu huno.
Dywedodd y papur newydd fod y cwmni ecwiti personol yn edrych ar gwmn?au’r West Bromwich, Skipton, Norwich a Peterborough, ynghyd â’r Principality. Rhwng y pedwar mae ganddyn nhw dros 1.7 miliwn o aelodau.
Ond mae’r Principality wedi gwadu adroddiadau’r papur dydd Sul, gan ddweud nad oes angen iddyn nhw godi arian ychwanegol drwy fanteisio ar gefnogwr ecwiti preifat fel JC Flowers.
“Does dim sylwedd i’r honiad sydd wedi ymddangos dros y penwythnos,” meddai llefarydd ar ran y Principality.
“Er gwaetha’r hinsawdd heriol, mae’r Principality yn parhau mewn cyflwr da.
“Mae’n rhaid bod y s?on wedi eu lledaenu gan JC Flowers,” meddai’r llefarydd wrth Golwg 360. “Y tro cyntaf i ni glywed am y newyddion oedd drwy’r erthygl yn y papur newydd.”