Mae Paul yr Octopws, wnaeth ddarogan yn gywir canlyniad sawl un o gemau’r Cwpan y Byd dros yr haf, wedi marw.

Fe ddewisodd Paul enillydd pob un o gemau’r Almaen yn gywir, yn ogystal â phroffwydo buddugoliaeth Sbaen yn y ffeinal.

Gwnaeth hynny drwy ddewis rhwng dau focs gyda fflag y ddwy wlad oedd â bwyd ynddyn nhw.

Dywedodd Stefan Porwoll, rheolwr Canolfan Bywyd Mor Oberhausen yn yr Almaen, bod Paul wedi marw yn ystod y nos.

Dim ond ychydig flynyddoedd mae octopysau yn byw fel arfer, meddai wrth bapur newydd y Guardian.

“Mae’n bosib y gwnawn ni gladdu Paul ar ein tir a chodi cofadail bach er cof amdano,” meddai.