Mae wedi bod yn wythnos gythryblus yn hanes S4C. Nos Lun am 8.25pm fe fydd S4C yn cynnal ‘Noson Gwylwyr’, fydd yn cynnig y cyfle i chi ffonio, e-bostio neu anfon neges destun yn mynegi barn am y sianel. Ond does dim angen disgwyl tan hynny er mwyn ymuno â’r ddadl ar y we…
Byddai wedi bod yn llawer, llawer gwell trosglwyddo’r holl, job lot i’r Cynulliad – hyd yn oed os na fyddai yna lawer o adnoddau ariannol yn dod i’w ganlyn…. A hyd yn oed petai’r Cynulliad yn penderfynu na allai ariannu’r sianel ac yn ei chau, ein penderfyniad ni fyddai fo, mi fyddai’n rhan o’n gwleidyddiaeth ac mi fyddai’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o fyw efo’n penderfyniad. Efo’r drefn yma mae pob dim allan o’n gafael, allan o’n rheolaeth, y tu allan i’n strwythurau a’n diwylliant gwleidyddol.
– Blogmenai, Pam bod cynlluniau Hunt yn farwol i ddarlledu cyfrwng Cymraeg
Dylai safonau fod yn bwysig i S4C, ond nid safon ydi’r prif broblem. Rhaid bod yn onest fan hyn, y rheswm bod Llywodraeth Lloegr yn gallu pigo ar S4C ydi achos bod nifer y gwylwyr yn rhy isel, nid oherwydd bod y rhaglenni’n crap (a dwi wedi dweud nad ydw i o’r farn eu bod nhw’n ddiweddar gan fwyaf). Beth sydd ei angen ar S4C ydi rhaglenni poblogaidd, dim mwy na llai, ac fel y gwelir o bob sianel arall dydi rhaglen o safon ddim o reidrwydd yn rhaglen boblogaidd … y gwir plaen ydi mai i’r gwrthwyneb sy’n wir yn aml!
– Hogyn o Rachub, Anghywir, Arwel Ellis Owen!
Os yw’r arian yn mynd i fynd yn brin, yna ‘quality, not quantity’ dylai’r mantra newydd fod. I rywun fel fi, yng nghanol fy nhri-degau, rhaid cyfadde (a dwi’n teimlo’n reit wael am hyn) fod bygyr ôl o werth i mi ar y sianel fel y mae hi ar hyn o bryd. Bob hyn a hyn, cawn ambell ddarllediad safonnol (Pen Talar, er engrhaifft), ond fel arfer, ac yn fy marn i fel un o gynulledifa’r sianel (noder, barn rhywun o’r gynulleidfa rwy’n cynnig, nid barn rhywun ‘on the inside’), rybish yw’r rhan helaeth o’r rhaglenni sydd ar yr arlwy.
– Rhydian Mason, Dyfodol S4C – ein sianel, ein chwyldro
Beth bynnag fydd y trefniant gweinyddol ffurfiol, os bydd rheolaeth yr arian yn nwylo’r BBC yn Llundain, nhw fydd yn rheoli. Ac mi wyddon ni o brofiad y BBC yng Nghymru pa mor anodd yw hynny o ran hunaniaeth go iawn.
O ran rheolaeth, os na fydd annibyniaeth glir, o ran polisi golygyddol ac arian, mi fyddwn ni’n ôl bron iawn yn yr un sefyllfa ag yr oedden ni cyn 1982.
– Dylan Iorwerth, Aaa! Dyfodol S4C
S4C oedd un o’r prin esiamplau o Fagi yn methu cael ei ffordd ei hunan. A yw’r bygythiad i S4C yn engraifft arall o’r Ceidwadwyr yn dal dig? Ydy’r blaid a orfodwyd i fwyta humble pie yn ôl ym 1980, bellach am gael dial?
Os ydy Jeremy Hunt (efo C) yn credu bod modd iddo wireddu ei ddial oherwydd bod Gwynfor wedi marw a bod Cymry Cymraeg yn gallu bod yn feirniadol o S4C, mae o wedi gwneud camgymeriad mawr.
Mae’r rysáit am humble pie ar gael o hyd, mae’n deisen efo plas cas. Wyt wir am ei brofi Jeremy?
– Hen Rech Flin, Rysáit Cymraeg: Humble Pie!
Beth am roi actorion Cymraeg ar set Sherlock i actio’r geiriau yn Gymraeg? Addasu, wrth reswm, fel nad ydi’r cyfieithiad yn slafaidd. Yr un peth efo Life on Mars a Doctor Who. Am ychydig iawn o gost ychwanegol, mi gaen ni gyfresi drama gorau’r byd yn ein hiaith ein hunain. Mae’n well syniad nag un trosleisio Jeremy Hunt yndydi!
– Guto Dafydd, Meddwl mwy am S4C
Yn gyntaf does gan y Bib yn ganolog ddim o’r hanes mwyaf teilwng pan fo’n dod i barchu ‘y rhanbarthau’ fel y gelwir Cymru yn llawer rhy aml. Mae’r BBC, fel pob corfforaeth fawr, yn edrych i ofalu am y mwyafrif ar drail y lleiafrif. Mae hyn wrth gwrs am olygu fod Cymru ac S4C o hyd am ddod yn olaf yn eu hystyriaethau
Yn ogystal a hynny mae’r ffaith mai’r BBC sydd am orfod talu am S4C allan o’i chyllid hi, heb gael arian cyfatebol gan y llywodraeth a chael y drwydded wedi ei rewi am bedair mlynedd am suro’r berthynas o’r dechrau cyntaf yn deg.
– Mabon ap Gwynfor, Brwydrwch dros S4C – trysor diwyllianol ac economaidd
Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddadlau o blaid yr angen am un corff penodol ac annibynnol i ddatblygu a darparu addysg Gymraeg yn y sector, roeddem ni yn defnyddio S4C fel enghraifft o’r hyn roeddem ni’n deisyfu.
Ond, och! Ar yr wythnos lle gwthiwyd y Coleg Ffederal i’r dŵr fe long ddrylliwyd S4C gan Lywodraeth Llundain gyda’r BBC yn ceisio dwyn yr ysbail. Bellach, wrth geisio esbonio i bobl pam fod cadw S4C yn sefydliad annibynnol yn bwysig mi fydda i’n defnyddio’r Coleg Cymraeg fel enghraifft. Yr eironi.
– Rhys Llwyd, Cymharu dyfodol S4C a’r Coleg Cymraeg