Mae cyn lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, wedi cyhuddo’r newyddiadurwr Rod Liddle o “hiliaeth digywilydd” mewn erthygl oedd yn ymosod ar S4C.
Dydd Mercher ysgrifennodd Rod Liddle flog ar wefan y Spectator oedd yn ymosod ar y sianel Gymraeg, gan ddweud y dylai gael ei chau i lawr.
Dywedodd nad oedd “neb, yn llythrennol, yn gwylio S4C” a bod “neb yn gwylio bron i 200 o’r rhaglenni”.
Aiff y blog yn ei flaen i ymosod ar y Cymry gan ddweud eu bod nhw’n bobol “truenus” sy’n “poeni defaid” ac mai dim ond pobol “gwbl ddidalent” sy’n gweithio i S4C.
Mae ŵyr Gwynfor Evans, y gwleidydd Mabon ap Gwynfor a ymgyrchodd dros sefydlu S4C, eisoes wedi cwyno i’r heddlu gan gyhuddo Rod Liddle o hiliaeth yn erbyn y Cymry.
Y llythyr
Yn ei lythyr ef at olygydd y Spectator mae Dafydd Iwan yn amddiffyn S4C a’n beirniadu safon newyddiaduraeth y cylchgrawn wythnosol.
“Fe ddylai Rod Liddle fod â chywilydd (mae hyd yn oed ei Saesneg yn wael – ‘licence fee’ yw’r sillafiad cywir gyda llaw), ac fe ddylai osgoi defnyddio’r iaith Gymraeg heb ddysgu ambell i reol sylfaenol,” meddai.
“Os mai dyma’r gorau y mae’r Spectator yn gallu ei wneud, druan ohonoch. Mae’r hiliaeth digywilydd yma yn warth arnoch chi i gyd.”
Mae’n cyfaddef bod ambell i raglen wael wedi bod ar S4C dros y blynyddoedd, ond bod hynny’n wir am deledu Saesneg hefyd.
Dywedodd bod sawl un o sêr y cyfryngau Seasneg hefyd wedi dechrau eu gyrfaoedd ar S4C, gan gynnwys Huw Edwards, Alex Jones, Sian Lloyd, Gethin Jones, Rhys Ifans, Ioan Gruffudd, Bryn Terfel, Matthew Rhys, a Guto Harri.
Mae Rod Liddle yn un o gyd olygyddion cylchgrawn y Spectator ac yn gyn olygydd rhaglen Today Radio 4 y BBC.
Ym mis Rhagfyr y llynedd aeth i drwbl am honni mai dynion ifanc croenddu oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r troseddau yn Llundain.