Ymddengys bod Jeremy Hunt wedi anwybyddu nid yn unig Llywodraeth Cymru ond ei blaid yng Nghymru hefyd. Mae llythyron gan Nick Bourne at y Gweinidog Diwylliant wedi gwneud ei ffordd i swyddfa’r wasg yn y Cynulliad. Ar 9 Medi ac eto ar 18 Hydref ysgrifenodd Nick Bourne at Jeremy Hunt yn ymbil arno i warchod cyllideb S4C gymaint ag sy’n bosibl.

Mae llythyr Medi 9 yn gofyn i Jeremy Hunt ystyried yr angen i gael darlledwr cyfrwng Cymraeg hyfyw ar y teledu ac yn ei atgoffa o waith y Ceidwadwyr yn gwarchod “un o’n hieithoedd brodorol” a bod arbedion mewn sefydliadau bach yn anodd. “I understand the difficulties and I understand that some savings may be required but the Welsh Conservatives have always been supportive of S4C and will continue to be supportive.

Mae ebost 18 Hydref lawer yn gryfach yn gofyn am:

1. Statws arbennig i S4C gan DCMS i sicrhau bod lleihad yng nghyllideb S4C yn llai na’r toriadau yn yr adran yn gyfangwbl.

2. Arolwg i Awdurdod S4C yn cwmpasu pob agwedd o lywodraethiant, rheoli, y drefn gomisiynu ac atebolrwydd.

3. Yr arolwg i gynnwys ystyriaeth o drosglwyddo cyfrifoldeb dros S4C i’r Cynulliad, gan fod cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi ei drosglwyddo i’r Cynulliad eisoes.

Rhy ychydig, rhy hwyr? Penderfyniad munud olaf oedd trosglwyddo cyllideb S4C draw i’r BBC; trwy wasanaeth newyddion y BBC y clywodd Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones am y cynllun yn y lle cyntaf, ddaeth galwad Jeremy Hunt i’r Cadeirydd ddim tan ar ôl i’r newyddion dorri. Mae’n ergyd i’r Ceidwadwyr Cymreig bod Jeremy Hunt wedi diystyru llythyron Nick Bourne. Mae’n amlwg o’r llythyron nad dyma’r unig ddau mae Nick Bourne wedi bod yn eu hanfon i San Steffan ar S4C. Dysgeidiaeth Bourne “in action” ys gwede nhw. Ydy hi felly’n ddysgeidiaeth lwyddiannus?