Mae Ysgrifennydd Cymru wedi amddiffyn toriad o tua 7% yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd Cheryl Gillan y gallai Llywodraeth Cymru fod yn hapus gyda maint y toriad, oedd yn well nag oedden nhw wedi ei ddisgwyl.
Bydd gwario adnoddau Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei leihau 7.5% a’r gwario cyfalaf yn cael ei leihau 41%.
Bydd cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn disgyn o £15 biliwn eleni i £14.6 biliwn yn 2014-15, meddai’r Trysorlys.
Mae hynny’n well nag oedd y Cynulliad wedi ei ragweld wrth baratoi ar gyfer yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.
Fe fydd yna hefyd doriad 25% yng nghyllideb Swyddfa Cymru. Bydd rhaid i’r Swyddfa ddechrau datblygu “gwasanaethau ar y cyd” gyda Swyddfa’r Alban a Swyddfa Gogledd Iwerddon.
“Cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad fydd penderfynu sut i reoli’r gostyngiadau yma gan adlewyrchu eu polisïau a’u blaenoriaethau eu hunain,” meddai’r Trysorlys.
“Fel rhannau eraill o Ynysoedd Prydain bydd rhaid i Gymru chwarae rhan a derbyn rywfaint o’r toriadau.”
Ymateb
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, bod y toriadau yn rhai teg.
“Does yr un rhan o Brydain yn gallu osgoi’r toriadau sy’n angenrheidiol ar ôl y diffyg ariannol gafodd ei adael gan y Llywodraeth flaenorol,” meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru.
“Ond mae hwn yn setliad teg i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriadau llai na’r rhan fwyaf o adrannau Llywodraeth San Steffan.
“Serch hynny fe fydd angen i Fae Caerdydd wneud penderfyniadau anodd. Rydw i’n ymroddedig i barhau i weithio gyda’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog er mwyn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.”
Dywedodd Kirsty Williams bod y setliad yn “newyddion lot gwell nag oedd nifer yng Nghymru yn ei ragweld”.
“Rhaid i bobol Cymru ddeall nad yw hi’n bosib smalio y bydd y poen yn atal wrth Bont Hafren,” meddai. “Mae’r penderfyniadau a wnaethpwyd heddiw yn anodd ond yn angenrheidiol.”