Mae’r Canghellor George Osborne wedi datgelu’r toriadau mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Dywedodd y byddai 490,000 o swyddi yn cael eu colli yn y sector gyhoeddus o ganlyniad i Adolygiad Gwario Cynhwysfawr y Trysorlys. Fe fydd gwario cyhoeddus yn cael ei dorri £81 biliwn dros gyfnod o bedair blynedd.
Y wladwriaeth les a’r heddlu fydd yn cael eu taro galetaf gan y toriadau, a bydd yr oed ymddeol yn codi’n gynt na’r disgwyl.
Yn y pen draw bydd adrannau Whitehall yn wynebu toriadau o 19% ar gyfartaledd – ddim cynddrwg a’r 25% yr oedd rhai wedi ei ragweld.
Honnodd bod hyn yn golygu nad yw ei doriadau cynddrwg a’r toriadau 20% yr oedd y Blaid Lafur wedi eu cyhoeddi cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Fe fydd yna £7 biliwn o doriadau i’r wladwriaeth les, gan gynnwys budd-dal analluogrwydd, budd-daliadau tai a chredydau treth.
Bydd cyllideb y Swyddfa Gartref yn cael ei thorri 6%, cyllideb y Swyddfa Dramor yn cael ei thorri 24%, cyllideb Cyllid a Thollau ei Marwhydi yn cael ei thorri 15%, a chyllideb yr Adran Gyfiawnder yn cael ei thorri 6%.
Fe fydd yr oed pensiwn yn codi i 66 erbyn 2020, meddai, pedair blynedd ynghynt na’r disgwyl.
Fel y cyhoeddwyd eisoes, bydd pobol sy’n ennill dros £43,875 ddim yn cael budd-daliadau plant. Byddai hynny’n arbed £2.5 biliwn, meddai George Osborne.
Cyhoeddodd y Canghellor y bydd gwario ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynyddu o £104 biliwn eleni i £114 biliwn yn 2015.
Fe fydd y cynnydd yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei basio ymlaen i Gymru a’r gwledydd datganoledig eraill drwy’r Fformiwla Barnett, meddai.
‘Camu nôl’
Dywedodd y Canghellor George Osborne mai “heddiw yw’r dydd y mae Prydain yn camu’n ôl o ymyl y dibyn”.
“Mae Prydain cryfach yn dechrau nawr,” meddai ar ddiwedd awr o araith ar lawr Tŷ’r Cyffredin.
Ychwanegodd bod Prydain yn gwario £43 biliwn o log ar ei ddyled bob blwyddyn o “ac nad oedd hi’n deg gofyn i’n plant dalu’r llog ar log ar y ddyled nad oedden ni’n fodlon ei dalu”.
Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn gwario £651bn y flwyddyn nesaf, a bydd hynny’n cynyddu i £693 biliwn erbyn 2014/15.
“Mae’n cymryd amser i droi llong dyled,” meddai. “Bydd rhaid i’r rheini sy’n gallu cynnal y baich wneud hynny.
“Rhaid i’r sector gyhoeddus newid er mwyn cefnogi dyheadau a disgwyliadau pobol heddiw, yn hytrach na phobol 1950.”
Fe fydd gwario ar yr heddlu yn cael ei dorri 4% bob blwyddyn. Bydd torri costau a biwrocratiaeth yn golygu bod mwy o heddlu yn rhydd i gerdded y strydoedd, meddai.
Bydd cyllideb y Trysorlys yn cael ei thorri 33%, ac fe fydd yr adran yn rhannu eu hadeilad gyda Swyddfa’r Cabinet.
Dywedodd George Osborne bod banciau wedi eu rheoli’n wael gan y Blaid Lafur, gan gyhoeddi deddfwriaeth newydd fydd yn codi trethi newydd arnyn nhw.